Cyhoeddedg 20/02/2026
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ar draws GIG Cymru gan bwysleisio y gall hyd yn oed ychydig bach o Gymraeg wneud gwahaniaeth ystyrlon i brofiad cleifion Cymraeg eu hiaith wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd a derbyn gofal.
Mae pobl Cymru yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod rhai o’r adegau anoddaf a mwyaf bregus yn eu bywydau. Pan gaiff cleifion eu cefnogi i ddefnyddio eu dewis iaith, gall hyn leihau pryder, gwella cyfathrebu, cryfhau ymddiriedaeth a gwella canlyniadau gofal. I lawer o gleifion yng Nghymru, nid dewis yn unig yw gallu siarad Cymraeg wrth dderbyn gofal, ond rhywbeth sy’n gallu bod yn hanfodol i deimlo eu bod yn cael eu deall, eu bod yn ddiogel ac yn dawel eu meddwl.
Mae AaGIC yn angerddol dros wreiddio’r Gymraeg drwy addysg, hyfforddiant a datblygiad y gweithlu ar draws GIG Cymru, ac mae’n chwarae rhan allweddol wrth gyflwyno Mwy na Geiriau (2022–2027), sef cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall pobl ledled Cymru gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn yr iaith o’u dewis.
Prif gyflawniadau AaGIC:
Datblygu canllawiau cynllunio’r gweithlu ar gyfer y Gymraeg
Datblygodd AaGIC ganllawiau pwrpasol ar gyfer cynllunio’r gweithlu o ran y Gymraeg, sydd bellach wedi’u gwreiddio mewn dogfennau polisi strategol ar draws y sector iechyd. Drwy annog sefydliadau i wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau yn seiliedig ar angen iaith Gymraeg, bydd GIG Cymru mewn sefyllfa well i sicrhau bod cleifion yn gallu cyfathrebu’n glir ac yn gyfforddus yn eu dewis iaith. Mae’r canllawiau eisoes wedi dylanwadu ar strategaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant (Ebrill 2025), gan atgyfnerthu pwysigrwydd dewis iaith mewn lleoliadau gofal sensitif.
Cynyddu ymwybyddiaeth ac addysg
Mae AaGIC wedi cryfhau ei ymgysylltiad â myfyrwyr cyn-cofrestru ledled Cymru drwy adfywio Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru, gan helpu i godi ymwybyddiaeth o rôl hanfodol y Gymraeg wrth ddarparu gofal iechyd effeithiol a thosturiol yng Nghymru. Trwy’r Fforwm, mae myfyrwyr wedi tynnu sylw at nifer o flaenoriaethau i gefnogi defnydd ehangach o’r Gymraeg yn y gweithle, ac fe fydd AaGIC yn datblygu’r cyfleoedd hyn dros y flwyddyn nesaf. Un o’r prif geisiadau oedd am wersi Cymraeg sylfaenol wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer myfyrwyr gofal iechyd. Mae AaGIC wedi trefnu rhaglen beilot gyda “Dysgu Cymraeg”, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, i ymateb i’r angen hwn. Yn ogystal, mae hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith Agor y Drws AaGIC a modiwlau arweinyddiaeth Cymraeg wedi’u cyflwyno’n genedlaethol, gan gefnogi arweinwyr ar bob lefel i ddeall pwysigrwydd dewis iaith wrth wella profiad cleifion a chanlyniadau gofal.
Ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Mae AaGIC wedi comisiynu datblygiad Syrjeri Sgiliau, pecyn addysgu arloesol sydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli plant ysgol gynradd ledled Cymru i weld gyrfaoedd gofal iechyd yn gadarnhaol. Bydd yr adnodd newydd ar gael ar wefan AaGIC yn ddiweddarach eleni. Trwy ymgysylltu ag ysgolion, cymunedau a digwyddiadau cenedlaethol megis yr Eisteddfod, mae AaGIC yn ymateb i’r galw cynyddol am wybodaeth Gymraeg ac yn ysbrydoli pobl ifanc i weld y Gymraeg fel sgil gwerthfawr o fewn GIG Cymru.
Bydd AaGIC yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, byrddau iechyd GIG Cymru ac awdurdodau lleol i wreiddio’r Gymraeg ymhellach ar draws GIG Cymru, gan helpu i adeiladu gweithlu sy’n adlewyrchu anghenion ieithyddol cleifion.
Dywedodd Huw Owen, Rheolwr Gwasanaethau Cymraeg yn AaGIC:
“Gall clywed a defnyddio eu hiaith eu hunain mewn lleoliadau gofal iechyd ddod â chysur gwirioneddol i gleifion a’u teuluoedd.”
“Dyna pam rydym wedi ymrwymo i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws GIG Cymru. Gall hyd yn oed pethe bach, megis cynnig ‘shwmae’ neu ‘bore da’ cyfeillgar, wneud gwahaniaeth ystyrlon a helpu cleifion Cymraeg eu hiaith yng Nghymru i deimlo’n gartrefol.”
Am ragor o wybodaeth am ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith, ewch i: Defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle - AaGIC
I ddarllen am gynllun Mwy na Geiriau 2022–2027, ewch i: Mwy na geiriau: Mwy na geiriau: cynllun y Gymraeg mewn iechyd a gofal Cymdeithasol | LLYW.CYMRU