Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae AaGIC wedi penodi Dr Sam Donohue, yn Gyfarwyddwr Gweithredol newydd Nyrsio, y Proffesiynau Iechyd ac Ansawdd.
Fel Cyfarwyddwr Gweithredol, bydd Dr Donohue yn chwarae rhan ganolog yn y broses o drawsnewid sut mae GIG Cymru yn datblygu’r gweithlu presennol a'r dyfodol i barhau i ddiwallu anghenion cleifion a chymunedau ledled Cymru. Gyda ffocws penodol ar nyrsio, bydwreigiaeth, y proffesiynau iechyd perthynol a gwyddor gofal iechyd, bydd Sam yn gweithio gydag arweinwyr proffesiynol eraill, rheoleiddwyr a chyrff proffesiynol i ymgorffori gweithio amlbroffesiynol, modelau gweithlu cynaliadwy a llwybrau gyrfa hyblyg.
Fel arweinydd Gweithredol ar gyfer Dyletswydd Ansawdd, bydd Dr Donohue yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod AaGIC yn ymateb i heriau diogelwch ac ansawdd ar draws y system iechyd a gofal, gan roi adborth dysgwyr a lles y gweithlu yn ganolog i ein cynlluniau.
Mae Dr Donohue yn ymuno â AaGIC gyda phrofiad helaeth fel arweinydd nyrsio uwch mewn rheoleiddio proffesiynol, polisi cenedlaethol, datblygu'r gweithlu ac arweinyddiaeth glinigol.
Yn fwyaf diweddar, gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro yn y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Roedd ei chyfrifoldebau yn cynnwys sicrhau ansawdd addysg, diogelu, a rhaglenni proffesiynol allweddol, gan weithio yn agos gyda Phrif Swyddogion Nyrsio a Bydwreigiaeth y DU a rheoleiddwyr systemau.
Wrth groesawu Dr Donohue i AaGIC, dywedodd Alex Howells, y Prif Weithredwr:
“Rwy’n falch o groesawu Dr Sam Donohue i AaGIC fel ein Cyfarwyddwr newydd Nyrsio, y Proffesiynau Iechyd ac Ansawdd. Mae hon yn rôl arweinyddiaeth allweddol sy’n ganolog i weithlu GIG Cymru.
“Mae gan Sam brofiad sylweddol o arwain rhaglenni cenedlaethol a llunio polisi proffesiynol ledled y DU. Bydd ei harbenigedd mewn trawsnewid y gweithlu, ansawdd addysg a rheoleiddio proffesiynol yn allweddol wrth i ni barhau i weithio gyda phartneriaid i fynd i'r afael â heriau'r gweithlu a chynorthwyo’r ddarpariaeth o ofal o ansawdd uchel ar draws GIG Cymru.”
Mae Dr Donohue yn cymryd yr awenau yn dilyn ymddeoliad Lisa Llewelyn ar ôl 48 mlynedd anhygoel yn y GIG.