Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Mae AaGIC wedi lansio canllaw adrodd newydd ar gyfer optometreg i helpu contractwyr i gofnodi data gweithlu

Cyhoeddwyd: 04/06/2026

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi creu Canllaw Adrodd System Wybodaeth y Gweithlu Gofal Sylfaenol (PCWIS) ar gyfer Optometreg i gefnogi contractwyr ledled Cymru.  

Mae'r Canllaw ar gael ar Y Ty Dysgu, platfform e-ddysgu cenedlaethol GIG Cymru ac mae'n darparu cyfarwyddiadau manwl ar sut i gwblhau PCWIS, gan gynnwys: 
- sut i ychwanegu staff newydd 
- sut i gofnodi oriau locwm 
- beth i'w wneud pan fydd staff yn gadael 
 
Mae'r Canllaw hefyd yn cynnwys sgrinluniau defnyddiol a dolenni i fideos gyda chyfarwyddiadau defnyddiol a gynhelir ar Learning@wales. Mae'n werth nodi bod y fideos hyn ar gyfer pob contractwr gofal sylfaenol, a disgwylir i bractisau optometreg gynnwys cofrestrwyr ar PCWIS yn unig. 

Nod y PCWIS yw cefnogi uchelgais Cymru iachach a Model Gofal Sylfaenol Cymru drwy gasglu ac adrodd data a fydd yn llywio trefniadau gweithlu cynaliadwy.