Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Cyhoeddedg 20/03/2026
Mae Arolygon Hyfforddiant Cenedlaethol GMC 2026 yn agor ar 24ain o Fawrth 2026. Bydd yr arolwg ar agor am chwe wythnos a bydd yn cau ar 6ed o Fai 2026.
Y prif nod yw mesur y canfyddiad o ansawdd yr hyfforddiant a dderbynnir.
Gofynnir i tua 100,000 o feddygon preswyl dan hyfforddiant a hyfforddwyr gymryd rhan yn Arolygon Hyfforddiant Cenedlaethol GMC 2026. Cynhelir hwn bob blwyddyn a dyma'r cipolwg blynyddol mwyaf ar addysg a hyfforddiant yn y gweithle.
Mae'r arolygon yn cynnwys cwestiynau ar nifer o feysydd gan gynnwys ansawdd hyfforddiant; llwythi gwaith a llosgi allan; amser sydd ar gael i gyflwyno neu dderbyn hyfforddiant; mynediad at ystafelloedd egwyl a mannau astudio a diwylliant y gweithle.
Bydd y GMC yn defnyddio'r canlyniadau yn ei waith gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i sicrhau hyfforddiant o ansawdd da i feddygon preswyl ac i wella cefnogaeth i hyfforddwyr. Mae hyn yn golygu ei bod hi'n hanfodol derbyn ymatebion gan ystod eang o arbenigeddau a rhanbarthau ledled Cymru.
Mae AaGIC yn annog pob meddyg a hyfforddwr preswyl i gymryd rhan, gellir dod o hyd i wybodaeth ar wefan AaGIC . Mae gwefan y GMC hefyd yn cynnig rhagor o wybodaeth fanwl.
Bydd angen i feddygon preswyl fewngofnodi i’w cyfrif GMC Ar-lein .
Gellir cael mynediad at yr arolwg hyfforddeion drwy fynd i'r tab 'Fy Arolygon'. Bydd tudalen gyntaf y ffurflen arolwg wedi'i llenwi ymlaen llaw â manylion swydd y meddyg preswyl a dim ond cadarnhau a ydynt yn gywir neu eu diwygio os oes angen y bydd angen i hyfforddeion eu gwneud.
Gall hyfforddwyr hefyd gael mynediad at yr arolwg drwy eu cyfrif GMC Ar Lein . Os nad yw hyn wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen, bydd angen sicrhau bod eich cyfrif yn weithredol.
Mae'r arolwg yn berthnasol i breswylwyr Sylfaen, Craidd ac Arbenigol mewn hyfforddiant, gan gynnwys Meddygon Teulu. Yr unig eithriadau i hyn yw:
Mae'r arolwg hefyd yn berthnasol i'r grwpiau canlynol sydd wedi bod yn goruchwylio preswylwyr yn weithredol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:
Os nad ydych chi wedi bod yn weithgar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rhowch wybod i ni yn HEIW.trainersurvey@wales.nhs.uk a gallwn drefnu i chi gael eich eithrio. Ni fydd hyn yn effeithio ar eich statws fel hyfforddwr cofrestredig.
Mae'r GMC wedi cynghori y bydd y canlyniadau ar gael i'r cyhoedd yn haf 2026 (dyddiad terfynol i'w gadarnhau). Bydd AaGIC yn dosbarthu rhagor o wybodaeth am y canlyniadau wrth iddynt ddod ar gael.
Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella'r gyfradd ymateb neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill am yr arolwg, mae croeso i chi gysylltu ag Uned Ansawdd AaGIC . Mae hwn yn gyfle prin i ddylanwadu ar hyfforddiant drwy roi eich barn i'r GMC ar safon addysg a hyfforddiant meddygol yng Nghymru. Bydd pob ymateb yn cael ei drin yn gyfrinachol a'i adrodd yn ddienw.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am yr arolwg, cysylltwch gyda: