Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Fframwaith Cymhwysedd Cymru Gyfan ar gyfer Gofal Lliniarol a Diwedd Oes

Cyhoeddedig: 05/02/2025

Mae AaGIC, mewn cydweithrediad â rhaglen Gofal Lliniarol a Diwedd Oes Gweithrediaeth GIG Cymru (PEoLC), yn datblygu fframwaith cymhwysedd PEoLC aml-broffesiynol sylfaenol. Mae’r fframwaith hwn wedi’i gynllunio ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y rhai a gyflogir neu a gontractir gan y GIG, awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector annibynnol, hosbisau ac elusennau. Ei nod yw cefnogi'r rhai sy'n gofalu am, neu'n debygol o ofalu am, unigolion sy'n nesáu at ddiwedd eu hoes.

Mae hwn yn brosiect 12 mis, a ddaeth i ben ym mis Hydref 2025, gyda grŵp llywio aml-broffesiynol wedi’i ffurfio i oruchwylio’r fframwaith.

Mae'r prosiect yn cyd-fynd â Datganiad Ansawdd Llywodraeth Cymru ar gyfer PEoLC ac yn cefnogi gweledigaeth 'Cymru Iachach' ar gyfer gofal iechyd integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu i:

  • Wella ansawdd ymarfer gofal lliniarol a diwedd oes trwy ddatblygu cymwyseddau i danategu rhaglenni addysg a hyfforddiant.
  • Darparu safoni sgiliau ar draws rolau gofal iechyd, gan sicrhau bod gan bob gweithiwr proffesiynol y cymwyseddau angenrheidiol i ddarparu gofal lliniarol effeithiol.
  • Gwella cyfathrebu ac effeithlonrwydd: Gyda set gyffredin o gymwyseddau, gall timau gofal iechyd gyfathrebu'n fwy effeithiol a gweithio'n fwy effeithlon, gan fod pawb yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau.
  • Cynyddu gofal lliniarol a diwedd oes sy’n canolbwyntio ar y claf: Bydd y fframwaith yn pwysleisio gofal sy'n canolbwyntio ar y claf, gan sicrhau bod anghenion a dewisiadau cleifion ar flaen y gad o ran cynllunio a darparu gofal.

Dywedodd Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol gyda Gweithrediaeth GIG Cymru, “Mae tua 35,000 o bobl bob blwyddyn angen rhyw fath o ofal lliniarol a diwedd oes yng Nghymru, ac maen nhw'n derbyn gofal ym mhob lleoliad a chan lawer o wahanol staff clinigol a thimau.  Rydym yn edrych ymlaen at weld y fframwaith cymhwysedd newydd yn ein helpu i gefnogi staff ar draws y system iechyd a gofal i ddarparu gofal rhagorol i bobl â salwch cynyddol sy’n byrhau bywyd lle bynnag y maen nhw.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon, cysylltwch â heiw.nationalprogrammes@wales.nhs.uk