Neidio i'r prif gynnwy

Dysgu o brofiadau byw a bywyd: adeiladu gweithlu sy'n barod ar gyfer y dyfodol

Cyhoeddedg 12/02/2026

Cymerodd mwy na 300 o fyfyrwyr Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) ran mewn gweithdy dysgu rhyngbroffesiynol ym Mhrifysgol Wrecsam, a oedd yn canolbwyntio ar werth profiad byw mewn gofal iechyd. Archwiliodd y gweithdy pam mae cyd-gynhyrchu ac ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn sgiliau hanfodol ar gyfer gweithlu Cymru yn y dyfodol.

Cyflwynwyd y gweithdy gan y Tîm Profiad wedi’i Fyw a Byw a'r Tîm Addysg Ymarfer AHP yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ynghyd â Choleg Adfer a Lles Caerdydd a'r Fro. Drwy ddod â phrofiad byw ac arbenigedd proffesiynol ynghyd, creodd y sesiwn ofod cefnogol i fyfyrwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd a myfyrio ar sut olwg sydd ar ofal tosturiol, sy'n canolbwyntio ar berthnasoedd, yn ymarferol.

Nodwedd allweddol o'r sesiwn oedd gweithgaredd panel Newid Mwyaf Arwyddocaol (MSC), dull gwerthuso cyfranogol a ddefnyddir mewn rhannau o'r GIG a gofal cymdeithasol. Rhannodd dau o fynychwyr o Goleg Adfer a Lles Caerdydd a'r Fro eu straeon adferiad iechyd meddwl, gan annog myfyrwyr i ystyried sut y gall profiad bywyd lunio gwasanaethau, dylanwadu ar wneud penderfyniadau a gyrru newid ystyrlon.

Cefnogodd y gweithdy fyfyrwyr i fyfyrio ar eu hymarfer proffesiynol yn y dyfodol ac amlygodd gyfleoedd i ymgorffori cyd-gynhyrchu a phrofiad byw ymhellach o fewn addysg gofal iechyd ledled Cymru, gan gynnwys mewn lleoliadau dysgu rhyngbroffesiynol a lleoliadau ymarfer.

Rhannodd myfyrwyr amrywiaeth o fyfyrdodau:

  • “Mae’n bwysig deall profiad bywyd unigolion er mwyn bod yn weithiwr gofal iechyd gwell.”
  • “Rwy’n credu ei fod wedi helpu i ddangos i mi pa mor hanfodol yw iechyd meddwl a gwerth cyfeirio at gefnogaeth os a phan fo angen. Fe wnaeth dynnu sylw at sut mae profiadau’r gorffennol yn adlewyrchu’r person ydych chi a sut allwch chi ddefnyddio’ch profiad i roi gwell gofal i’ch cleifion.”
  • “Mae eich clywed chi’n siarad am bobl niwroamrywiol fel ased yn braf, yn bersonol ac yn broffesiynol.”
  • “Pwysigrwydd naratif a chydweithio â defnyddwyr gwasanaeth, o ran gosod nodau a chysylltu hyn â’m hymarfer yn y dyfodol.”
  • “Defnyddio dulliau empathig a gofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd.”
  • “Sbectrwm cyd-gynhyrchu a phwysigrwydd gobaith.”

Cymerodd y cyfranogwyr ran hefyd mewn sesiynau pellach a hwyluswyd gan brifysgol Wrecsam ar sgyrsiau iechyd meddwl a lles personol, gan eu helpu i feithrin hyder a sgiliau ymarferol i gefnogi eraill.

Ar hyn o bryd mae AaGIC yn gweithio gyda Pherfformiad a Gwella'r GIG (NHS P&I) ar lunio'r cynnig cymorth gan gymheiriaid ar gyfer profiaf byw a bywyd yng Nghymru. Darllenwch yr erthygl ddiweddaraf ar gynnydd y gwaith hwn ac ewch i wefan AaGIC i gael rhagor o wybodaeth am y gwaith ehangach ar y Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.