Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Daeth Cynhadledd Meddygon a Deintyddion SAS Addysg a Gwella Iechyd Cymru â mwy na 100 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru ynghyd am ddiwrnod o ddysgu, cydweithio a datblygiad proffesiynol, gan helpu i gryfhau'r sgiliau, y rhwydweithiau a'r galluoedd arweinyddiaeth sy'n cefnogi gofal o ansawdd uchel i gleifion ledled Cymru.
Rhoddodd y gynhadledd gyfle i'r mynychwyr glywed gan siaradwyr arbenigol, archwilio'r datblygiadau diweddaraf mewn gofal iechyd, a rhannu profiadau gyda chydweithwyr o ystod eang o arbenigeddau. Canolbwyntiodd y sesiynau ar arweinyddiaeth, lles, datblygu gyrfaoedd ac ymarfer clinigol, gan roi mewnwelediadau, syniadau ac offer ymarferol i'r cynrychiolwyr y gellir eu defnyddio yn eu timau a'u gwasanaethau eu hunain.
Y tu hwnt i ddatblygiad proffesiynol, tynnodd y digwyddiad sylw at effaith ehangach buddsoddi yn y gweithlu SAS. Drwy gefnogi meddygon a deintyddion i ddatblygu eu sgiliau, eu hyder a'u galluoedd arweinyddiaeth, mae'r gynhadledd yn cyfrannu at dimau gofal iechyd cryfach, a phrofiadau a chanlyniadau gwell i gleifion ledled Cymru.
Roedd y cynrychiolwyr hefyd yn gwerthfawrogi'r cyfle i ymgysylltu â chyfoedion o bob cwr o'r wlad, gan adeiladu rhwydweithiau a fydd yn parhau i gefnogi cydweithio a rhannu gwybodaeth ymhell ar ôl y digwyddiad.
Dywedodd un cynrychiolydd:
"Rhoddodd y gynhadledd syniadau ymarferol a safbwyntiau newydd i mi y gallaf eu rhoi ar waith ar unwaith yn fy rôl. Roedd yn wych clywed gan gydweithwyr ledled Cymru ac i allu myfyrio ar ein ffyrdd o weithio a nodi cyfleoedd i wella gofal cleifion. Rwy'n gadael gyda mwy o hyder, cysylltiadau proffesiynol newydd a nifer o gamau y byddaf yn eu cymryd yn ôl i'm tîm."
Dywedodd Deon Cyswllt Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer SAS a Chadeirydd y Gynhadledd, Mr Raj Nirula; "Mae ein meddygon a'n deintyddion SAS yn rhan hynod bwysig o weithlu'r GIG yng Nghymru. Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i ddysgu, rhannu arfer gorau a datblygu sgiliau arweinyddiaeth sy'n cryfhau timau ac yn cefnogi darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion ledled Cymru. Mae'r brwdfrydedd a'r ymgysylltiad a ddangoswyd drwy gydol y gynhadledd yn dangos ymrwymiad y gymuned SAS i ddarparu gofal rhagorol ledled Cymru."
Yn dilyn llwyddiant dy igwyddiad eleni, mae cynhadledd ar-lein bellach wedi'i chynllunio yn ddiweddarach eleni, gyda digwyddiad wyneb yn wyneb arall yn cael ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf.
I weld yr holl adnoddau y mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn eu cynnig https://heiw.nhs.wales/education-training/a-z/sas-doctors/