Neidio i'r prif gynnwy

Cyrsiau newydd ar gyfer nyrsys Iechyd Meddwl Cymunedol ac Anableddau Dysgu

Mae rhaglenni Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ) wedi'u comisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru mewn Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol a Nyrsio Anabledd Cymunedol. Am y tro cyntaf bydd y cyrsiau'n cael eu cyflwyno yng Nghymru gyda Phrifysgol Bangor yn dechrau yng Ngwanwyn 2026.

 Mae Nyrsio Iechyd Meddwl Cymunedol (CMHN) a Nyrsio Anabledd Dysgu Cymunedol (CLDN) yn hanfodol i ddarparu gofal teg, sy'n canolbwyntio ar y person o fewn lleoliadau cymunedol yng Nghymru. Mae CMHNs yn darparu ymyrraeth gynnar, atal atglafychiad, a chefnogaeth sy'n canolbwyntio ar adferiad, gan leihau derbyniadau i'r ysbyty a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol. Mae CLDNs yn gweithio gydag unigolion ag anableddau dysgu i hwyluso mynediad at ofal iechyd, gwella annibyniaeth, ac ymdrin â chyd-morbidrwydd cymhleth, a thrwy hynny fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae addysg Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol (SPQ) yn datblygu cymhwysedd clinigol uwch, meddwl beirniadol, a gallu arweinyddiaeth, gan alluogi Nyrsys Cofrestredig i ddarparu ymyriadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gweithio ar draws ffiniau sefydliadol, a gyrru arloesedd gwasanaeth.

Cynghorodd Lisa Llewelyn (Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio ,Gweithwyr Iechyd Proffesiynol ac Ansawdd)

"Mae comisiynu'r rhaglenni addysgol hyn yn cyd-fynd yn agos â Chynllun Gweithlu Nyrsio Strategol a Chynllun Gweithlu Iechyd Meddwl AaGIC yn ogystal â gyrwyr polisi allweddol Llywodraeth Cymru. Cymru Iachach (2018) sy'n hyrwyddo gofal integredig, yn seiliedig ar y gymuned; Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant (2025) a Gwella Bywydau (2018) sy'n pwysleisio ymyrraeth gynnar, lleihau stigma, a darpariaeth deg.

"Drwy alluogi nyrsys i weithredu'r strategaethau hyn, mae'r addysg SPQ yn cryfhau gallu CMHNs a CDLNs i arwain gofal ataliol, sy'n canolbwyntio ar y person, sy'n mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd ac yn cefnogi system gofal iechyd gynaliadwy a chynhwysol er budd poblogaeth Cymru."

Dywedodd Ian Mathieson (Cyfarwyddwr Strategaeth  Addysg a Thrawsnewid)

‘Am y tro cyntaf yng Nghymru, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn comisiynu rhaglenni addysg SPQ CMHN a CLDN. Cyflwynir y rhaglenni hyn ar-lein gan Brifysgol Bangor i sicrhau hygyrchedd i Nyrsys Cofrestredig ar draws pob rhanbarth o Gymru, gan hyrwyddo cyfleoedd cyfartal a chefnogi datblygiad gyrfa a chadw nyrsys ledled y wlad.

Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Nyrsio Cymunedol (SPQ): Anabledd Dysgu (PGDip) | Prifysgol Bangor

Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Nyrsio Cymunedol (SPQ): Iechyd Meddwl (PGDip) | Prifysgol Bangor

Cymhwyster Ymarfer Arbenigol Nyrsio Cymunedol (SPQ): Meddygaeth Teulu (PGDip) | Prifysgol Bangor