Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Cyhoeddi enillydd Gwobr Gwella AaGIC 2025/26

Cyhoeddedg 01/04/2026

Mae'n bleser gan Dîm Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd AaGIC (QIST) gyhoeddi bod Gwobr Gwella AaGIC 2025/26 wedi'i dyfarnu i Fleur McGill, Hyfforddai Deintyddol (Blwyddyn 3) mewn Llawfeddygaeth y Geg a'r Wyneb. Mae Fleur wedi'i lleoli yn Ysbyty Treforys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a dyna lle ymgymerodd a’i phrosiect gwella ansawdd buddugol, o'r enw: “Assessing and improving tracheostomy documentation and emergency equipment availability in ward T patients.”

Canolbwyntiodd y prosiect ar wneud gwelliannau mewn dogfennaeth ac argaeledd offer brys, er mwyn sicrhau gofal diogel ac effeithiol i gleifion. Mae hi’n myfyrio ar lwyddiant ei phrosiect gyda'r datganiad canlynol: 

"Nod y prosiect oedd gwella diogelwch cleifion o fewn carfan o gleifion cymhleth, gan ei wneud yn faes ffocws arbennig o bwysig. Mae Ward T yn Ysbyty Treforys yn gofalu am gleifion Clust, Trwyn a Gwddf (ENT) a Llawfeddygaeth y Geg a'r Wyneb (OMFS). Mae'n cynnwys uned bwrpasol ar gyfer unigolion â llwybrau anadlu cymhleth, gan gynnwys tracheostomïau a laryngectomïau. 

Fy nod oedd nodi bylchau yn y ddarpariaeth offer a chynllunio profion newid i fynd i'r afael â nhw, gyda tharged o gyflawni cydymffurfiaeth o 90%. O ganlyniad, gwellodd cydymffurfiaeth o 64% cychwynnol i gyfartaledd terfynol o 93%. Rwy'n falch iawn bod fy mhrosiect wedi'i gydnabod, ar restr fer Gwobr Gwella AaGIC 2025/26, ac mae’n anrhydedd fy mod wedi ennill."

Dyfarnodd y panel beirniaid hefyd dystysgrifau Cymeradwyaeth Uchel i Jerlin Jose, Swyddog Deintyddol ym Mwrdd Iechyd Ysbyty Athrofaol Betsi Cadwaladr, a Laura Thomas, Hwylusydd Trawsnewid Gwasanaethau Gwella Ansawdd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, am eu prosiectau gwella ansawdd. Teitl prosiect Jerlin oedd: “Improving the consent taking process of Inhalational Sedation.” 

Dywedodd Jerlin: 

"Fe wnes i ymgymryd â'r prosiect gwella ansawdd (QI) hwn fel rhan o fy rhaglen hyfforddi blwyddyn 2 hyfforddiant deintyddol craidd. Roeddwn wedi cwblhau IQT lefel efydd fel rhan o fy mlwyddyn hyfforddi deintyddol sylfaen ond nid oeddwn yn teimlo bod gen i unrhyw sgiliau i gwblhau prosiect gwella ansawdd. 

Mae'r gweithdai sgiliau a hyfforddiant gwella ansawdd (QIST) wedi helpu i fynd trwy egwyddorion QI a'r hyn y dylai prosiect da ei gynnwys. Rhoddodd sylfaen dda i mi allu dod o hyd i brosiect mewn gwasanaethau deintyddol cymunedol (CDS) i'w wella. Roedd y tiwtoriaid gwella ansawdd yn hawdd mynd atynt, yn hawdd cysylltu a nhw,  ac yn gofyn sut roedd y prosiect yn mynd yn ei flaen.

Rwyf bellach yn gweithio fel swyddog deintyddol yn yr un CDS, rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella, lle bydd fy sgiliau gwella ansawdd yn ddefnyddiol."

Teitl prosiect Laura oedd: “Preventing Deconditioning: A Quality Improvement Project for Clinically Able Patients on a Cardiac Ward.”

Dywedodd Laura: "Cwblheais fy Mhrosiect Gwella Ansawdd tra'n dal yn newydd i'r tîm Gwella Ansawdd yn fy Mwrdd Iechyd, ac fe wnaeth y profiad gryfhau fy nysgu a'm hyder gyda Gwella Ansawdd yn sylweddol. 

Nod y prosiect oedd cynyddu nifer y cleifion clinigol abl ar y Ward Cardiaidd a oedd yn codi ac yn gwisgo erbyn 12pm. Gan ddefnyddio methodolegau Gwella Ansawdd a chylchoedd PDSA, fe wnaethom gyflwyno ymyriadau fel bwrdd gwybodaeth, Hyrwyddwyr Atal Dadgyflyru, gweithgareddau ymgysylltu â chleifion creadigol, amseroedd bwyd gwarchodedig, a mentrau hydradu gwell. Arweiniodd y newidiadau hyn at welliannau parhaus yn lefelau gweithgarwch cleifion a rhoi hwb i forâl staff. Rydym nawr yn bwriadu adeiladu ar y cynnydd hwn trwy ledaenu a graddio'r gwaith ar draws wardiau eraill."

Mae Tîm Hyfforddiant Sgiliau Gwella Ansawdd AaGIC (QIST) yn gweithio mewn partneriaeth ag Ansawdd, Diogelwch a Gwella, fel rhan o Berfformiad a Gwella GIG Cymru i ddatblygu a darparu rhaglen hyfforddi Gwella Ansawdd unigryw ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru. Mae methodoleg Gwella Ansawdd yn arfogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda'r wybodaeth a'r sgiliau y gellir eu defnyddio i weithredu newidiadau amser real, i wella gwasanaethau iechyd a'r amgylchedd dysgu mewn meysydd diogelwch, lles a chynaliadwyedd cleifion. 

Mae Gwobr Gwella AaGIC yn gystadleuaeth flynyddol sy'n agored i holl staff GIG Cymru. Gwahoddir ymgeiswyr i gyflwyno prosiect Gwella Ansawdd wedi'i gwblhau, sydd wedyn yn cael ei adolygu gan banel beirniaid i'w ystyried.

Bydd rhagor o wybodaeth am wobr 2026/27, gan gynnwys y dyddiad agor ar gyfer cyflwyniadau, yn cael ei chyhoeddi maes o law. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen QIST, ewch i'n Gwefan