Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Cyhoeddedg 16/03/2026
Mae oes newydd i fferylliaeth yng Nghymru yn dechrau wrth i'r garfan gyntaf o fferyllwyr newydd gymhwyso ymuno â'r gweithlu fel Rhagnodwyr Annibynnol.
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn nodi'r garreg filltir bwysig hon wrth i fferyllwyr newydd gymhwyso ymuno â'r gofrestr broffesiynol gyda statws rhagnodi annibynnol (IP). Mae'r cyflawniad hwn yn dilyn sawl blwyddyn o waith cydweithredol dan arweiniad AaGIC gyda Phrifysgolion, cyflogwyr a phartneriaid cenedlaethol i foderneiddio addysg a hyfforddiant fferylliaeth ledled Cymru.
Mae'r newidiadau wedi trawsnewid y radd Meistr Fferylliaeth (MPharm) israddedig a'r Flwyddyn Hyfforddiant Sylfaen, gan sicrhau bod fferyllwyr yn datblygu sgiliau rhagnodi drwy gydol eu hyfforddiant ac yn barod i gofrestru fel rhagnodwyr annibynnol. Mae'r diwygiadau'n cyd-fynd â safonau addysg a gyflwynwyd gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i fferyllwyr y dyfodol gael eu hyfforddi gyda'r gallu i ragnodi.
Drwy gymhwyso gydag awdurdod rhagnodi, bydd y fferyllwyr newydd gofrestru hyn yn gallu ymgymryd â chyfrifoldebau clinigol estynedig o ddechrau eu gyrfaoedd. Mae hyn yn golygu y bydd cleifion yn gallu derbyn asesiad, cyngor a thriniaeth yn uniongyrchol gan fferyllwyr mewn amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys fferyllfeydd cymunedol a thimau gofal sylfaenol.
Mae'r llwybr hyfforddi wedi'i ailgynllunio yn rhoi'r sgiliau clinigol uwch sydd eu hangen ar fferyllwyr yn system iechyd heddiw. Yn ystod y Flwyddyn Hyfforddiant Sylfaen, a gyflwynir ac a sicrheir ei hansawdd gan AaGIC, mae hyfforddeion yn atgyfnerthu eu gwybodaeth a'u profiad ymarferol i sicrhau eu bod yn hyderus ac yn gallu asesu cleifion, gwneud penderfyniadau clinigol a rhagnodi'n ddiogel.
Mae'r garfan gyntaf hon o fferyllwyr sy'n ymuno â'r gweithlu gyda statws rhagnodi annibynnol yn cynrychioli cam pwysig wrth adeiladu gweithlu fferylliaeth modern i Gymru – un a all helpu i wella mynediad at ofal, cefnogi timau amlddisgyblaethol a galluogi mwy o wasanaethau i gael eu darparu'n agosach at adref.
Laura Doyle, Deon Cyswllt Fferylliaeth, AaGIC: “Mae hwn yn foment hollbwysig i fferylliaeth yng Nghymru. Dros sawl blwyddyn rydym wedi gweithio'n agos gyda phrifysgolion a phartneriaid i ailgynllunio addysg fferylliaeth fel bod graddedigion wedi'u paratoi'n llawn ar gyfer ymarfer clinigol modern.
Bydd fferyllwyr sy'n ymuno â'r gofrestr gyda'r gallu i ragnodi'n annibynnol yn gwella mynediad at ofal, yn gwella diogelwch cleifion ac yn cryfhau gwasanaethau gofal iechyd ar draws cymunedau yng Nghymru o'r diwrnod cyntaf."
Dr Matthew Ivory, Darlithydd a Chyfarwyddwr Rhaglen MPharm, Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Prifysgol Caerdydd: “Mae gweithio gydag AaGIC i ailgynllunio rhaglen gradd MPharm a’r Flwyddyn Hyfforddiant Sylfaen wedi trawsnewid profiad dysgu ein myfyrwyr. Mae ein graddedigion bellach yn datblygu gallu rhagnodi drwy gydol eu hyfforddiant ac yn ymuno â'r proffesiwn yn barod i wneud gwahaniaeth ar unwaith.”
Rhys Thomas, Fferyllydd dan Hyfforddiant Sylfaen presennol AaGIC: “Mae gallu rhagnodi o ddechrau fy ngyrfa yn golygu y gallaf ddatblygu fy ngwybodaeth glinigol a gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu fy nghleifion. Mae'n gyfnod cyffrous i ymuno â'r proffesiwn yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at fod yn aelod defnyddiol o'r tîm gofal iechyd ehangach am flynyddoedd lawer i ddod.”
Bydd AaGIC yn parhau i weithio gyda phrifysgolion, cyflogwyr a phartneriaid cenedlaethol i gefnogi'r fferyllwyr hyn wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd ac i sicrhau bod cleifion ledled Cymru yn elwa o'u sgiliau clinigol gwell.