Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Cryfhau'r gweithlu: Dros 5,000 o gofrestriadau yn e-ddysgu iechyd meddwl AaGIC

Cyhoeddedg 30/03/2026

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn cryfhau'r gweithlu gofal iechyd ledled Cymru drwy ei raglenni e-ddysgu iechyd meddwl. Yn unol â'r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol , mae gan y cyrsiau dros 5,000 o gofrestriadau bellach. Gyda'r nifer hwn yn parhau i gynyddu, mae AaGIC yn helpu i adeiladu gweithlu mwy medrus a hyderus, gan gryfhau ansawdd y gofal iechyd meddwl a ddarperir ledled y wlad.  

Mae'r cyrsiau ar gael ar Y Tŷ Dysgu , y platfform e-ddysgu cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru. Fe'u cynlluniwyd i gefnogi staff ar draws byrddau iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a gwirfoddolwyr, gan eu helpu i ddeall problemau iechyd meddwl yn well a darparu gofal gwell i gleifion ledled Cymru. 

Mae'r cyrsiau'n cwmpasu meysydd iechyd meddwl allweddol, gan gynnwys: 

  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) 
  • Iechyd Meddwl Amenedigol 
  • Hawliau plant (NEST) 
  • Diagnosis dementia (DiADeM Cymru) 
  • Anableddau Dysgu 
  • Llythrennedd sylfaen iechyd meddwl 
  • Ymwybyddiaeth o drawma 
  • Cyrsiau Clozapine a Lithiwm 
  • Cyflwyniad i anhwylderau bwyta  
  • Perthynas Rhiant a Baban ac Iechyd Meddwl Baban 


Mae AaGIC wedi partneru â Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru a'r trydydd sector i ddarparu'r dysgu mwyaf cyfoes. Mae hyn yn sicrhau bod gan ddefnyddwyr fynediad at yr wybodaeth fwyaf perthnasol a chywir i'w cefnogi i ddarparu gofal o safon.

Ers mis Ionawr 2024, mae dros 5,000 o gofrestriadau wedi'u cofnodi ar draws y cyrsiau hyn. Mae hyn yn dangos ymgysylltiad ac ymrwymiad cryf i wella dealltwriaeth o iechyd meddwl a darparu gofal o safon ym maes iechyd meddwl ledled Cymru.  

Mae'r cyrsiau e-ddysgu yn helpu cydweithwyr ar bob lefel i adnabod arwyddion a symptomau cyflyrau iechyd meddwl, deall ble i gyfeirio pobl am gymorth a theimlo'n hyderus i gael sgyrsiau agored am iechyd meddwl a lles. Mae dysgwyr yn adrodd eu bod yn teimlo'n fwy hyderus, gwybodus a chyfarparedig i wneud gwahaniaeth.

Mae adborth gan gyfranogwyr yn tynnu sylw at werth y cyrsiau hyn: 

  • “Bydd yr hyfforddiant hwn yn fy helpu i ymdrin â chleifion gyda mwy o anogaeth i geisio cefnogaeth briodol.”
  • “Bydd y dysgu hwn yn newid/addasu fy ymarfer ar gyfer pan fydd claf ag anhwylder bwyta yn cael ei dderbyn i’r ward a byddaf yn gallu cymryd ymagwedd fwy priodol tuag atynt.”
  • “Fel nyrs ysgol gymharol newydd, mae fy ngwybodaeth am y pwnc hwn ar ôl cwpla’r cwrs hwn wedi cynyddu’n fawr, a hefyd fy niddordeb yn y pwnc. Rwy'n teimlo y byddaf yn gallu rhoi fy ngwybodaeth ar waith yn y rôl hon.” 
  • “Rwyf hefyd yn ofalwr maeth ac mae hyn wedi bod yn ffynhonnell wych o ddysgu a chefnogaeth wrth fod yn fwy empathig, deallus a chefnogol i’r rhai rwy’n dod i gysylltiad â nhw.”
  • “Roeddwn i’n teimlo bod y cwrs hwn yn hwb gwych i ddatblygu arferion, gan ganiatáu i mi gefnogi’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw mewn ffordd gadarnhaol a diogel.”
  • “Mae wedi rhoi gwybodaeth i mi ar sut i ddarparu gwasanaeth gwell i rywun ag anableddau dysgu.”
     

Mae'r gwaith hwn yn cefnogi'n uniongyrchol flaenoriaeth strategol AaGIC o ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, yn ogystal â'r Cynllun Gweithlu Iechyd Meddwl Strategol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Chymru Iachach. Drwy ddarparu rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus cenedlaethol wedi'u targedu, mae AaGIC yn helpu i adeiladu gweithlu medrus a hyderus a all ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol i gleifion ledled Cymru. 

Am ragor o wybodaeth am e-ddysgu iechyd meddwl AaGIC, e-bostiwch Dîm Iechyd Meddwl AaGIC neu ewch i Y Tŷ Dysgu