Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Cryfhau Gweithlu Imiwneiddio Cymru Drwy Ddatblygu Canllawiau Cydweithredol

Cyhoeddedg 23/02/2026

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn falch o rannu datblygiad pwysig sy'n cefnogi darpariaeth ddiogel ac effeithiol o wasanaethau imiwneiddio ar draws GIG Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2025, cyhoeddwyd y Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r Cwricwlwm Craidd diwygiedig ar gyfer Hyfforddiant Brechu gan GOV.UK. Er bod y canllawiau cenedlaethol hyn yn darparu sylfaen gref ar gyfer ymarfer imiwneiddio, cydnabuwyd nad oedd rhai elfennau'n adlewyrchu strwythurau a gofynion GIG Cymru yn llawn.

Er mwyn sicrhau bod y canllawiau'n adlewyrchu gofynion gweithredol GIG Cymru yn llawn, cydweithiodd sefydliadau ledled Cymru i gynhyrchu canllawiau cynghori penodol i Gymru sy'n ategu'r safonau cenedlaethol ac yn cefnogi gweithlu imiwneiddio cyson a medrus.

Mynediad i'r dogfennau

Mae modd gweld yr holl ddogfennau yma: Adnoddau a digwyddiadau hyfforddi imiwneiddio - Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Safonau Gofynnol Cenedlaethol a Chwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant Brechu
  • Dogfen gynghori i gefnogi cyflwyno'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a'r Cwricwlwm Craidd ar gyfer Hyfforddiant brechu yn GIG Cymru
  • Hyfforddiant imiwneiddio Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) ac asesiad o gymhwysedd. Datganiadau canllaw Cymru gyfan

Pam mae hyn yn bwysig i Gymru?

Mae'r canllawiau penodol i Gymru yn adeiladu ar yr arfer cryf sydd eisoes ar waith ac yn anelu at:

  • Cryfhau eglurder ynghylch disgwyliadau hyfforddi i gefnogi ein gweithlu imiwneiddio medrus.
  • Gwella cysondeb ledled Cymru, gan gefnogi dull effeithlon ac unedig o ddarparu gwasanaethau.
  • Sicrhau y gall Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSWs) barhau i weithio'n ddiogel, yn hyderus ac i frig eu cymhwysedd.

Mae'r gwaith hwn yn cryfhau'r cydweithrediad ledled Cymru ac yn cefnogi'r ddarpariaeth barhaus o wasanaethau imiwneiddio o ansawdd uchel.

Cyfraniad AaGIC i'r gwaith hwn

Cefnogodd AaGIC ddatblygiad y canllawiau penodol hyn i Gymru drwy gyfrannu arbenigedd mewn addysg, hyfforddiant a fframweithiau cymhwysedd y gweithlu. Drwy gydweithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru a chydweithwyr ar draws y system, helpodd AaGIC i sicrhau bod y canllawiau’n cyd-fynd â llwybrau dysgu sefydledig ac yn parhau i gefnogi gweithlu imiwneiddio hyderus, galluog a chyson ledled Cymru.

Cefnogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd – atgyfnerthu eglurder a chysondeb

Fel rhan o'r gwaith hwn, nododd partneriaid gyfle i roi mwy o eglurder ynghylch hyfforddiant imiwneiddio gweithwyr gofal iechyd ac asesiad cymhwysedd yng Nghymru. I gefnogi hyn, mae set o ddatganiadau canllaw Cymru gyfan ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd wedi'u datblygu.

Mae’r datganiadau hyn yn:

  • Adlewyrchu argymhellion ar y cyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Imiwneiddio Cymru Gyfan a'r Grŵp Arweinwyr ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar gyfer Datblygu Gweithwyr Cymorth Iechyd, Rhaglen Brechlyn Cymru ac Iechyd y Cyhoedd.
  • Darparu disgwyliadau clir ar gyfer hyfforddiant, goruchwyliaeth ac asesiad cymhwysedd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd sy'n ymwneud ag imiwneiddio.
  • Cyd-fynd â fframweithiau gweithlu presennol, gan gefnogi cysondeb ar draws sefydliadau a lleoliadau.

Mae'r canllawiau bellach wedi'u hadolygu a'u cymeradwyo gan Raglen Brechlyn Cymru, gan sicrhau llywodraethu cadarn a dull cenedlaethol unedig.

Enghraifft wirioneddol o gydweithio

Mae'r gwaith hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni trwy gydweithrediad cenedlaethol cryf ar draws nifer o grwpiau a sefydliadau proffesiynol. Drwy gydweithio, rydym wedi creu canllawiau clir ac ymarferol sy'n cefnogi ehangu a datblygu'r gweithlu imiwneiddio yng Nghymru yn ddiogel.  Yn bwysicaf oll, mae'r ymdrechion hyn yn helpu i sicrhau bod pobl ledled Cymru yn parhau i dderbyn gwasanaethau imiwneiddio o ansawdd uchel, diogel a hygyrch.

“Rydym yn falch o fod wedi cefnogi’r gwaith cydweithredol hwn, sy’n dod â mwy o eglurder a chysondeb i hyfforddiant imiwneiddio ledled Cymru. Mae sicrhau bod ein gweithlu’n cael ei gefnogi gan ganllawiau clir, sydd wedi’u halinio’n genedlaethol, yn hanfodol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i bobl Cymru.”
Patricia Mathias-Lloyd, Rheolwr Datblygu Addysg, AaGIC