Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Cyhoeddedg: 01/10/2025
Bob blwyddyn, mae GIG Cymru yn gweld cydweithwyr gwerthfawr yn gadael eu rolau, eu sefydliadau, ac weithiau'r GIG yn gyfan gwbl oherwydd trefniadau gwaith anhyblyg a diffyg cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan greu her yn y GIG y mae'n rhaid i ni ei datrys gyda'n gilydd.
Nid dim ond rhywbeth “braf i’w gael” yw cefnogi cydweithwyr i weithio’n hyblyg, mae’n hanfodol ar gyfer lles cydweithwyr a chynaliadwyedd gwasanaethau. Dangoswyd bod rhoi cyfleoedd i gydweithwyr weithio'n hyblyg yn:
Mae GIG Cymru wedi ymrwymo i hyrwyddo ac annog gwahanol ffyrdd o weithio i ddenu, recriwtio a chadw pobl ragorol.
Mae yna eisoes lawer o enghreifftiau cadarnhaol o weithio hyblyg ar draws GIG Cymru, ond gwyddom fod mwy i'w wneud. Drwy adeiladu ar y sylfeini hyn, gallwn greu diwylliant lle mae hyblygrwydd yn norm, nid yn eithriad, lle gall cydweithwyr ffynnu ac yn y pen draw , aros.
Er mwyn eich helpu a'ch cefnogi i lywio dulliau gweithio hyblyg, mae dau ganllaw newydd wedi'u datblygu:
Mae'r canllawiau hyn yn llawn gwybodaeth ac adnoddau ymarferol i helpu unigolion a rheolwyr i gydweithio i ddatblygu trefniadau hyblyg sy'n diwallu anghenion yr unigolyn, y tîm, a'r gwasanaeth. Mae'r ddau ar gael o fewn yr Hwb Cadw Cenedlaethol ar Borth Arweinyddiaeth Gwella AaGIC i Gymru.
Archwiliwch y canllawiau newydd a'r ystod lawn o adnoddau ar yr Hwb Cadw Cenedlaethol.
Drwy groesawu gweithio hyblyg, gyda'n gilydd gallwn greu amgylchedd mwy cefnogol a chynhyrchiol i'n holl gydweithwyr, gan sicrhau bod GIG Cymru yn parhau i fod yn lle gwych i weithio, ffynnu ac aros.