Cyhoeddedg 10/02/2026
Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn angerddol am annog pobl ifanc a graddedigion i gymryd y camau cyntaf tuag at yrfa yn GIG Cymru, tra hefyd yn cryfhau defnydd y Gymraeg ledled gwasanaethau iechyd a gofal.
Mae hyn yn adlewyrchu cyllid parhaus AaGIC ar gyfer cynlluniau Doctoriaid, Deintyddion a Gweithwyr Iechyd Yfory y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae'r cynlluniau wedi'u creu’n benodol i gefnogi myfyrwyr blwyddyn deuddeg sy'n siarad Cymraeg a graddedigion sy'n ystyried gwneud cais am gyrsiau iechyd yn y brifysgol yng Nghymru.
Mae cynlluniau Doctoriaid a Deintyddion Yfory yn cefnogi dysgwyr sy'n dymuno gwneud cais i astudio meddygaeth neu ddeintyddiaeth, tra bod cynllun Gweithwyr Iechyd Yfory yn targedu'r rhai sydd â diddordeb mewn graddau iechyd eraill, gan gynnwys bydwreigiaeth, fferylliaeth, therapi iaith a lleferydd a ffisiotherapi.
Mae'r rhai sy'n ymuno â'r cynllun yn elwa o arweiniad wedi'i deilwra gan weithwyr iechyd proffesiynol sy'n siarad Cymraeg a myfyrwyr prifysgol o Brifysgol Caerdydd, Abertawe, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Bangor a Wrecsam. Mae dysgwyr yn derbyn cymorth ymarferol gyda datganiadau personol a chyfweliadau, yn ogystal â gwybodaeth werthfawr am yr heriau a'r cyfleoedd o hyfforddi a gweithio yn GIG Cymru.
Mae cofrestru ar gyfer cynlluniau 2026 bellach ar agor, gyda cheisiadau yn cau ar 20 Chwefror.
I AaGIC, mae darparu cyllid ar gyfer y rhaglenni hyn yn fwy na chefnogi cyfleoedd gyrfa yn GIG Cymru. Mae'n ymwneud â helpu i adeiladu gweithlu'r dyfodol a all ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn hyderus i gleifion y mae Cymraeg yn iaith gyntaf neu’n ddewisol iddynt. Mae pobl ledled Cymru yn aml yn cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal pan maent ar eu mwyaf bregus, ac mae gallu cyfathrebu yn eu hiaith ddewisol neu frodorol yn rhan hanfodol o ddarparu gofal diogel, caredig a chynhwysfawr, gan helpu i wella profiadau cleifion a chanlyniadau clinigol.
Mae hyn yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru, Mwy Na Geiriau, sy'n anelu at gryfhau gwasanaethau iaith Gymraeg ledled iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae siaradwr Cymraeg, Lily Kearney, sydd yn ei blwyddyn olaf o astudio yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe, wedi cael ei derbyn i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Medi 2026. Wrth adlewyrchu ar ei phrofiad ar y Cynllun Doctoriaid Yfory, dywedodd : “Roedd y rhaglen Doctoriaid Yfory yn hynod werthfawr i mi gan ei bod yn rhoi cyfle i mi fynychu galwadau fideo gyda'r ysgolion meddygol o brifysgolion Cymru, yn ogystal â chael cymorth gyda'r UCAT a chyngor ar ddefnyddio fy mhrofiad gwaith yn fy natganiad personol. Heb y rhaglen, ni chredaf y byddwn wedi gallu cael lle ar y cwrs meddygaeth.”
Dywedodd Julia Bugelli, myfyrwraig feddygol yn ei phedwerydd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rwyf nawr yn fy mhedwaredd flwyddyn ac rwyf dal yn cofio’r gefnogaeth ges i gan y cynllun doctoriaid yfory. Boed hynny’n ymarfer ar gyfer cyfweliadau, gydag adborth go iawn, a’r cyfle i siarad efo myfyrwyr meddygol Prifysgol Caerdydd Cymraeg, ac wrth gwrs y cynnig o gyfweliad i’r brifysgol drwy gwblhau’r cynllun. Roedd hi’n gyfle amhrisiadwy rwy’n hynod ddiolchgar amdano a bu’n allweddol yn fy helpu i sicrhau lle yn yr ysgol feddygol a gobeithio dod yn ddoctor yfory."
Dywedodd Nia Cole Jones, Pennaeth Mwy Na Geiriau yn AaGIC: “Yn AaGIC, rydym yn ymrwymo i gryfhau defnydd y Gymraeg ledled addysg, hyfforddiant a phrofiad proffesiynol yn GIG Cymru. Trwy annog pawb i ddefnyddio eu sgiliau iaith Gymraeg wrth iddynt weithio a dysgu, rydym yn helpu i sicrhau y gall pobl sy'n byw yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau iechyd yn yr iaith y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus ynddi.”
Dywedodd Myfanwy Davies, Ymgynghorydd Strategol, Iechyd a Gofa yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae Doctoriaid Yfory wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth gefnogi myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg wrth iddynt wneud cais am lefydd i astudio meddygaeth, paratoi ar gyfer cyfweliadau a mwy. Rydym yn falch o'r ffordd y mae'r cynllun wedi tyfu.
“Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r cymorth ymarferol y gall mentoriaid ei gynnig, sy'n arbennig o bwysig i fyfyrwyr cenhedlaeth gyntaf sy'n bwriadu astudio meddygaeth.” Mae'n rhoi hyder iddynt ac yn dangos iddynt fod defnyddio’r Gymraeg yn eu hastudiaethau a rhyngweithio â phobl sy'n dioddef yn hanfodol.”
Mae'r ffurflen gais ar gyfer Doctoriaid Yfory, Deintyddion Yfory a Gweithwyr Iechyd Yfory ar gael yma: Ffurflen gofrestru Doctoriaid Yfory/Deintyddion Yfory/Gweithwyr Iechyd Yfory 2026
Ewch i dudalen we Defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle - AaGIC i gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio’r iaith Gymraeg ar draws GIG Cymru.