Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Sylwi ar yr arwyddion: Hyfforddiant anhwylderau bwyta newydd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Cyhoeddedg 04/09/2025

Mae gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru fynediad bellach at gwrs dysgu anhwylderau bwyta newydd ar Y Ty Dysgu.

Fel rhan o ymrwymiad Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) i ddarparu addysg a hyfforddiant o ansawdd uchel, mae'r cwrs hwn wedi'i ddatblygu gan Fwrdd Gweithredu Clinigol Cymru ar gyfer Anhwylderau Bwyta, gyda chynnwys a gynhyrchwyd yn wreiddiol mewn partneriaeth rhwng GIG Lloegr, Beat, a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion.

Modiwl Lefel 1 yw'r cwrs sy'n cynnig cipolwg hanfodol ar anhwylderau bwyta. Fe'i crëwyd i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ar unrhyw lefel, i wella eu dealltwriaeth o anhwylderau bwyta, dysgu sut i adnabod un a gwybod sut i gyfeirio pobl at gymorth a chefnogaeth.

Mae'r cwrs wedi'i lunio o fodiwlau hyblyg, haenog i alluogi dysgwyr i deilwra eu taith yn seiliedig ar nodau a phrofiad unigol.

Pynciau'r cwrs yw:

  • Y gwahanol fathau o anhwylderau bwyta
  • Sut i adnabod anhwylder bwyta
  • Rhai pethau i'w hystyried wrth gysylltu â rhywun os ydych chi'n amau fod ganddynt ​​anhwylder bwyta
  • Beth i'w wneud os ydych chi'n amau ​​anhwylder bwyta a sut allwch chi gefnogi rhywun i gael gymorth.

Cyrchwch y cwrs ar Y Ty Dysgu a dechreuwch ddysgu heddiw.