Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Adnodd newydd yn darparu arweiniad gofal dementia ymarferol ar gyfer y pandemig covid-19

Mewn cydweithrediad â Gofal Cymdeithasol Cymru, Gwelliant Cymru a Helen Lambert, mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi datblygu adnodd hyfforddi newydd ar gyfer gweithwyr gofal sy'n cefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia a'u teuluoedd. 

Gan adlewyrchu ar heriau mae’r pandemig covid-19 yn cyflwyno, mae'r fideo ar-lein atyniadol hon yn darparu arweiniad syml ar sut i ofalu a chefnogi'r rhai sy'n byw gyda dementia yn ystod yr amseroedd anodd hyn. Yn hytrach na chanolbwyntio ar theorïau manwl, mae pwyslais y fideo ar gyngor ymarferol, defnyddiol. 

Gallwch weld yr adnodd isod: