Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

AaGIC yn ennill Gwolbr Arian+ Cymhwysedd Diwylliannol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig Diverse Cymru

Cyhoeddwyd 3/10/2023

Mae tîm datblygu’r gweithlu a’r sefydliad o fewn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi ennill Gwobr Arian+ Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gan Diverse Cymru.

Mae'r wobr yn cydnabod cefnogaeth ac ymrwymiad gweithredol y tîm tuag at helpu AaGIC i ddod yn gyflogwr sy'n ddiwylliannol gymwys a sicrhau bod y gweithle yn deg ac yn gyfartal i'r rhai o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru.

Ariennir y cynllun ardystio gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cefnogi Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022. 

Derbyniodd Gareth Lloyd-Richards (Ef), Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn AaGIC y wobr ar ran y tîm yng Ngwobrau Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol Du Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig neithiwr (Dydd Llun 2 Medi 2023).

Dwedodd ef: “Yn AaGIC, credwn fod ein sefydliad yn cael ei gyfoethogi’n fawr gan yr ystod eang o gefndiroedd, profiadau, safbwyntiau, credoau a diwylliannau a gynrychiolir yn ein gweithlu.

“Nid ymarfer ticio blychau yn unig yw cydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a diwylliant, neu’n beth braf i’w gael, ond dylent barhau i gael eu gwreiddio ym mhopeth a wnawn ar draws y sefydliad.”

I gefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, mae AaGIC yn gweithio'n agos gyda Race Council Cymru i gefnogi ei hymgyrch  Hanes Pobl Dduon Cymru 365.

Wedi’i lansio ar ddiwrnod cyntaf Mis Hanes Pobl Dduon (1 Hydref), mae Hanes Pobl Dduon Cymru 365 yn arddangosfa blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau artistig, diwylliannol ac addysgol sy’n amlygu cyfraniadau a chyflawniadau arwyddocaol unigolion a chymunedau Du ledled Cymru.

Mae seremoni Gwobrau’r Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn un o blith nifer o ddigwyddiadau y mae AaGIC yn falch o’u noddi eleni fel rhan o’r ymgyrch. 

I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch  Hanes Pobl Dduon Cymru 365, ewch i blackhistorywales.org.uk a diversecymru.org.uk.