Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

AaGIC yn atgoffa dysgwyr, myfyrwyr a hyfforddeion i Godi Llais heb Ofn

Cyhoeddedg 24/02/2026

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn atgoffa dysgwyr, myfyrwyr a hyfforddeion anfeddygol yng Nghymru am y Pecyn Cymorth Myfyriol Codi Pryderon.

 

Mae'r adnodd digidol yn bodoli i gefnogi ac annog dysgwyr i deimlo'n ddiogel ac yn gallu siarad a chodi pryderon yn ystod eu profiadau ymarfer neu ddysgu seiliedig ar waith.

Mae codi pryderon yn rhan allweddol o sicrhau amgylchedd gwaith diogel, lles staff a gwasanaethau o ansawdd uchel i gleifion. Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys gwybodaeth a chanllawiau manwl ynghylch beth sy'n peri pryder, sut i leisio barn a phwysigrwydd teimlo'n ddiogel i wneud hynny.

Mae AaGIC yn atgyfnerthu'r neges bod codi pryderon nid yn unig yn cael ei annog, ond yn rhan bwysig o ymarfer proffesiynol. Anogir dysgwyr, myfyrwyr a hyfforddeion i gael mynediad at y pecyn cymorth a gwneud defnydd llawn o'r canllawiau sydd ar gael fel rhan o'u datblygiad proffesiynol a'u hymrwymiad i ofal diogel o ansawdd uchel.

Dywedodd Pennaeth Profiad a Gwella Lleoliadau yn AaGIC, Simon Cassidy:

“Byddwch yn profi llawer o adegau cyfoethog a gwerth chweil yn ystod eich addysg a’ch hyfforddiant, ond efallai y byddwch hefyd yn dyst i ddigwyddiadau neu gyfarfyddiadau sy’n gyfystyr ag arfer anniogel neu ymddygiad annerbyniol.

“Rydyn ni’n gwybod y gall codi eich llais deimlo’n heriol, a dyna pam rydyn ni wedi datblygu pecyn cymorth i sicrhau eich bod chi’n teimlo’n ddiogel, yn cael eich cefnogi ac yn gallu codi pryderon yn hyderus. Mae'r adnodd yn rhoi sicrwydd ynghylch y broses o godi pryderon ac mae wedi'i gynllunio i'ch helpu chi a'r rhai sy'n cefnogi eich ymarfer neu hyfforddiant i fyfyrio ar yr hyn y gallech fod wedi'i weld, gwneud synnwyr o'ch meddyliau a phenderfynu a oes angen codi pryder.

Mae'r pecyn cymorth yn cefnogi fframwaith 'Codi Llais heb Ofn'Llywodraeth Cymru, sy'n pwysleisio pwysigrwydd creu diwylliant o fewn sefydliadau gofal iechyd lle mae "codi llais, ochr yn ochr ag ymateb yn amserol ac yn briodol i unrhyw bryderon a godir, yn cael ei gefnogi o fewn amgylchedd diogel".

Am ragor o wybodaeth ac i gael mynediad at y pecyn cymorth, ewch i'n gwefanPecyn Cymorth Myfyriol Codi Pryderon.

Os ydych chi'n feddyg preswyl neu'n ddeintydd mewn hyfforddiant ôl-raddedig, mae yna brosesau penodol ar waith ar gyfer codi pryderon. Ewch i'n tudalen we Codi Pryderon a Chodi Llais heb Ofn ar gyfer meddygon a deintyddion preswyl mewn rhaglenni hyfforddi ôl-raddedig.