Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Enw: Megan Edwards Astudio:
BSc Therapi Iaith a Lleferydd Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Interniaeth gyda: Tîm Ansawdd, Capasiti a Gwella Lleoliadau
Fy Mhrofiad Cyffredinol
Helo, Megan ydw i ac rwy'n fyfyriwr Therapi Iaith a Lleferydd yn fy ail flwyddyn ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Rydw i wedi cwblhau gradd mewn Ffrangeg ac Almaeneg yn flaenorol ac wedi gweithio mewn ysgolion, cynghorau lleol a darparwyr hyfforddiant, ond des i o hyd i fy angerdd dros Therapi Iaith a Lleferydd ac rydw i'n gyffrous i gymhwyso ac ymuno â GIG Cymru yn y blynyddoedd i ddod. Cefais fy ysbrydoli i wneud cais am yr interniaeth i ddysgu mwy am AaGIC, datblygu fy sgiliau arweinyddiaeth a chyfrannu at brosiect effeithiol i fyfyrwyr fel fi.
Mae fy amser yn AaGIC wedi bod yn ysbrydoledig ac yn llawn mewnwelediadau, ac rydw i wedi dysgu cymaint y gallaf trosglwyddo i'm hastudiaethau a thu hwnt. Mae'r tîm wedi bod mor gefnogol, gan hwyluso cyfleoedd rhyngbroffesiynol anhygoel a rhannu eu gwybodaeth a'u profiadau bob dydd. Yn AaGIC, darganfyddais beth mae'n ei olygu i fod yn rhan o dîm tosturiol a chyfrannu ato – rhywbeth y byddaf yn ceisio ei efelychu drwy gydol fy ngyrfa.
Crynodeb o'r Prosiect
Roeddwn i'n ffodus iawn i fod yn rhan o'r Tîm Ansawdd, Capasiti a Gwella Lleoliadau, ac rwy'n teimlo'n ddiolchgar am allu cyfrannu at eu cyflwyniad o leoliadau arweinyddiaeth ar gyfer myfyrwyr AHP a nyrsio.
Roedd fy mhrosiect yn cynnwys creu adnoddau ymsefydlu ar gyfer myfyrwyr newydd, a fyddai'n eu helpu i deimlo'n barod ac yn groesawgar. Mae lleoliadau arweinyddiaeth i fyfyrwyr gofal iechyd yn newydd ac roedd yn rhywbeth nad oeddwn wedi'i ystyried yn bosibl, felly roedd yn gyffrous iawn i mi ymchwilio, cynllunio a gweithredu adnoddau gwych. Roedd yn allweddol dod â llawer o elfennau gwahanol ynghyd – gwybodaeth ymarferol am leoliadau, beth i'w ddisgwyl yn ystod eu hamser yn AaGIC a'r gwerthoedd sylfaenol sy'n cael eu hadleisio ar draws y sefydliad, gan gynnwys lles, cynhwysiant ac arweinyddiaeth dosturiol.
Yn y dechrau
Roedd hi'n bwysig dechrau fy mhrosiect drwy adeiladu sail resymegol a thystiolaeth a fyddai'n llywio fy awgrymiadau ar gyfer adnoddau a chynnwys. Siaradais â myfyrwyr a hwyluswyr addysg ymarfer (PEFs), ac archwiliais pa adnoddau sy'n cael eu rhoi i fyfyrwyr ar leoliad, eu heffeithiolrwydd yn ymarferol ac unrhyw strategaethau i helpu myfyriwr newydd i feithrin yr ymdeimlad o berthyn. Roedd yn gyfle amhrisiadwy i siarad â nhw a hoffwn diolch yn fawr iawn iddynt am ymroi eu hamser i sgwrsio â mi a rhannu eu harbenigedd!
Gan ddefnyddio eu hymatebion ac enghreifftiau o adnoddau a gasglwyd o PEF’s ac adnoddau ar-lein, llwyddais i ddylunio hwb adnoddau ar-lein y gellid ychwanegu ati'n barhaus trwy gydol leoliadau. Cynigiais hefyd ddetholiad o adnoddau deniadol ar amrywiaeth o lwyfannau y gall myfyrwyr eu cyrchu wrth baratoi ar gyfer ac yn ystod eu lleoliadau. Roedd y rhain yn cynnwys llawlyfr ymsefydlu ymarferol, cyflwyniad Sway gyda fideos am arweinyddiaeth dosturiol a chanllaw gweledol i lesiant a mannau cynhwysol yn Nhŷ Dysgu.
Camau Nesaf
Drwy gydol yr interniaeth, rydw i wedi bod yn gweithio'n galed ar ddrafftio, dylunio ac adolygu'r adnoddau hyn i wneud yn siŵr eu bod nhw'n gywir ac yn addysgiadol yn ogystal â bod yn ddiddorol ac yn hygyrch. Rydw i wedi cael y gefnogaeth fwyaf anhygoel gan fy nhîm a chan gydweithwyr ar draws Addysg a Gwella Iechyd Cymru – ni allaf ddiolch digon i bawb yn y Tîm Lleoliadau am adolygu a rhoi adborth ar y cynnwys.
Hoffwn hefyd ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn fy fideo am arweinyddiaeth dosturiol – ni fyddwn wedi gallu gwneud dim ohono heb eich cefnogaeth chi!
Mae'r adnoddau hyn yn cael eu cwblhau a'u huwchlwytho i'n hwb adnoddau, yn barod i'r carfannau cyntaf o fyfyrwyr ddechrau rhyngweithio â nhw! Byddaf yn mynd yn ôl i'r brifysgol, ac alla i ddim aros i ddefnyddio popeth rydw i wedi'i ddysgu yn y blynyddoedd i ddod.
Y Tu Hwnt i Waith a Phrifysgol
Rwy'n angerddol iawn am Therapi Iaith a Lleferydd, ac yn treulio amser y tu allan i'm hastudiaethau yn gwirfoddoli i Parkinson's UK ac yn gweithio gyda CLAPA. Rwyf hefyd wrth fy modd yn treulio amser gyda fy mhartner a'n tri chi – o fynd am dro i roi cynnig ar wyliau bwyd lleol.