Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Mali Rhys Evans

Yn ystod haf 2025 croesawodd AaGIC fyfyrwyr am interniaeth 8 wythnos, gan gynnig cyfle i bob un ohonynt gael mewnwelediadau gwerthfawr ar weithio o fewn y GIG yng Nghymru. Yma, mae Mali yn rhannu ei phrofiad gyda'r tîm Gwyddor Gofal Iechyd yn AaGIC.

Enw: Mali Rhys Evans
Astudio: BSc Gwyddorau Meddygol
Prifysgol: Prifysgol Caerwysg
Interniaeth gyda: Tîm Gwyddor Gofal Iechyd

Fy Mhrofiad Cyffredinol

Helo, Mali ydw i, myfyriwr Gwyddor Feddygol ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerwysg. Nid oedd fy llwybr i'r brifysgol yn hawdd, gan fod yn rhaid i mi fynd trwy glirio. Newidiais o Feddygaeth i Wyddor Feddygol, wrth i mi sylweddoli nad oedd agwedd glinigol meddygaeth i mi, ond roeddwn i dal eisiau cyfrannu at waith anhygoel y GIG. Yna, fel pe trwy dynged, daeth y cyfle i gymryd rhan yn yr interniaeth hon ar yr adeg berffaith ,ac mae wir wedi agor fy llygaid i faint sy'n mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni yn y GIG a faint o dimau sy'n cyfrannu at iechyd a lles y cyhoedd.

Hyd yn hyn, rwyf wedi cael amser anhygoel ac yn edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf. Mae cymryd rhan yn yr interniaeth hon wedi fy helpu i gadarnhau fy mhenderfyniad o (gobeithio) wneud gradd meistr mewn iechyd cyhoeddus ar ôl y brifysgol ac yna gwneud fy ffordd yn ôl i'r GIG!

Mae'r cyfle hwn wedi bod yn brofiad anhygoel, fel rhywun nad oedd yn gwybod llawer am AaGIC cyn ymuno, mae wedi agor fy llygaid i'r nifer o dimau sy'n gweithio gyda nhw, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chymaint ag y gallaf fel rhan o fy mhrosiect. Mae'r tîm Gwyddor Gofal Iechyd wedi bod mor gefnogol a chroesawgar ac wedi rhoi'r anogaeth imi arwain fy ymchwil fy hun, ac rwy'n teimlo'n gyfforddus wrth gynnig unrhyw syniadau, da neu ddrwg!

I unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais am interniaeth yn AaGIC byddwn yn eich annog yn gryf i wneud hynny gan eu bod yn dîm gwych i fod yn rhan ohono ac yn llawn cymaint o gyfleoedd.

Crynodeb o'r Prosiect

Roedd fy mhrosiect gyda'r tîm Gwyddor Gofal Iechyd, yn canolbwyntio ar y Cynllun Cyflawni'r Strategaeth Ymchwil ac Arloesi. Mae hwn yn bwnc cymharol newydd i AaGIC, felly cefais y dasg o ymchwilio i unrhyw adnoddau neu gyfleoedd Ymchwil ac Arloesi sydd ar gael i ymchwilwyr yng Nghymru. Y nod yw creu adnodd cymorth i unrhyw un naill ai am ymgorffori Ymchwil ac Arloesi yn eu gyrfa, neu bobl sydd am hyrwyddo'r sgiliau sydd ganddynt eisoes. Gallai hyn fod yn bethau fel cyfleoedd hyfforddi neu ariannu a roddir gan wahanol sefydliadau, neu hyd yn oed gan y GIG.

Yn y Dechrau

Ar ddechrau'r prosiect, cymerodd beth amser i mi ymgyfarwyddo â’r holl ddogfennau angenrheidiol , roedd llawer o ddarllen! Ond roedd y cyfan yn fuddiol oherwydd roedd wedyn yn golygu bod gen i'r wybodaeth gefndir oedd ei hangen arnaf i lywio fy syniadau a'm cyfraniadau. Unwaith y dechreuais ddeall popeth, a nodau'r prosiect, syrthiodd popeth i'w le a daeth yn llawer haws. Dechreuais ofyn llai o gwestiynau ac roedd angen llai o gymorth arnai yn barod!

Y Camau Nesaf

Camau nesaf y prosiect yw adeiladu ar yr hyn rydw i wedi dechrau ei wneud gan fod gen i dipyn ar ôl i'w wneud o hyd, ond rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r tîm a gwneud cynnydd yn fy mhrosiect. Rydw i hefyd yn gobeithio dysgu mwy o sgiliau a dysgu mwy am waith AaGIC a'r holl dimau ynddi.

Y tu hwnt i Waith a Phrifysgol

Rwy'n ferch 20 oed arferol sy'n mwynhau mynd allan gyda fy ffrindiau a chymdeithasu. Rwyf hefyd yn mwynhau gwrando a chwarae llawer o gerddoriaeth, darllen a gwylio ffilmiau.