Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Elin Vigus

Enw: Elin Vigus

Astudio: Niwrowyddoniaeth

Prifysgol: Prifysgol Leeds

Interniaeth gyda: Tîm y Gweithlu yn y Dyfodol a thîm y Gymraeg

Profiad Cyffredinol

Helo! Elin ydw i, myfyriwr Niwrowyddoniaeth ym Mhrifysgol Leeds sy’n mynd mewn i fy nhrydydd flwyddyn o astudio ym mis Medi. Yn dod o deulu sy’n siarad Cymraeg ac sydd wedi brwydro am yr iaith Gymraeg yn y gorffennol, rydw i wastad wedi bod yn angerddol a phenderfynol o hyrwyddo’r iaith Gymraeg, ac felly dwi’n enwedig o ddiolchgar i gael y cyfle i wneud hyn ar gyfer dyfodol y GIG. Mae’r gwaith yma yn hynod o bwysig i fi oherwydd rydw i’n byw yn Lloegr ac felly does gen i ddim y cyfle i siarad Cymraeg yn aml, ond rydw i wedi tyfu lan yn ymwybodol o bwysigrwydd yr iaith yng Nghymru, yn enwedig mewn gofal iechyd. Yn ystod fy amser yn AaGIC, roedd fy nealltwriaeth wedi mwyhau pan oeddwn i’n clywed am y profiadau positif llaw gyntaf mae pobl wedi cael o ganlyniad i’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y byd gofal iechyd.

Mae’r cyfle yma wedi rhoi mewnwelediad i fi ar faint o waith y GIG sydd yn anweledig a pha mor galed mae timau’r Gweithlu Dyfodol ac Iaith Gymraeg yn gweithio i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr y GIG. Trwy gydol y profiad yma, rydw i wedi dysgu am yr amrywiaeth eang o swyddi’r GIG ac rydw i wedi cael y fraint o gyfarfod â’r timau o unigolion sy’n gweithio yn y prifysgolion i gynyddu cyfleoedd yr iaith Gymraeg i fyfyrwyr. Un o’r pethau gorau bydda i’n cymryd o weithio yn AaGIC yw’r diwylliant croesawgar a chefnogol (yn enwedig fy nhimau) a pha mor angerddol yw bawb am eu rolau.

Crynodeb o’r prosiect

Yn ystod fy lleoliad 8-wythnos gydag AaGIC, gweithiais i ar 2 prosiect: yr adnodd ysgolion cynradd Syrjeri Sgiliau a’r wefan Tregyrfa ar gyfer ysgolion cyfun. Fel siaradwr Cymraeg, roeddwn i’n gyffrous iawn i gefnogi’r hyrwyddiad o’r iaith Gymraeg yn yrfaoedd y GIG wrth weithio’n agos gyda thimau’r Gweithlu Dyfodol ac Iaith Gymraeg. Roedd fy mhrif gyfrifoldebau yn cynnwys ffurfio rhestr o gysylltiadau Cymraeg ar draws ysgolion a phrifysgolion i hyrwyddo Syrjeri Sgiliau a gofyn i

ddarlithwyr i greu fideos neu gyflawni cyfweliadau ar gyfer Tregyrfa. Hefyd, fe wnes i gysylltu ag ysgolion cyfun Gymraeg i arddangos a hyrwyddo’r adnoddau Tregyrfa newydd a phresennol i annog diddordeb disgyblion mewn gyrfaoedd y GIG yng Nghymru.

Ar y dechrau

Cyn dechrau fy interniaeth, fe wnes i ymchwil mewn i’r gwefannau byddwn i’n gwneud fy mhrosiect ar drwy gydol yr 8 wythnos, er enghraifft, mewn i Dregyrfa. Fe wnaeth hyn gwneud fy nghyfraniadau i’r tîm Gweithlu’r Dyfodol yn haws a fwy ystyrlon. Ar ôl dechrau’r interniaeth, yn gyntaf fe wnes i fwy o ymchwil i mewn i adnoddau newydd fel Syrjeri Sgiliau a ‘Tregyrfa’, yn ogystal â chymryd fy amser i ddeall rolau pob tîm a pha mor bwysig yw eu gwaith. Roedd hyn yn hynod o bwysig i fi i ddeall y timau a nodau fy mhrosiect, yn ogystal â bwriad cyffredinol AaGIC. Ar y dechrau roeddwn i yn nerfus iawn, ond wrth fynd ymlaen, gyda thîm cefnogol dros ben o fy nghwmpas, fe wnes i fwynhau gweithio a chwrdd â phobl newydd pob dydd, yn cyfrannu at fwriad AaGIC.

Camau nesaf

Yn adeiladu o fy ngwaith hyd yma, gobeithio bydd y timau’r iaith Gymraeg a Gweithlu’r Dyfodol yn gallu ychwanegu’r adnoddau newydd ar Dregyrfa a pharhau monitro sut mae fy ngwaith wedi bod ar y wefan a gweld y diddordeb mewn gwersi ‘Syrjeri Sgiliau’ mewn ysgolion cynradd.

Tu hwnt i waith a phrifysgol

Tu hwnt i waith a phrifysgol, rydw i’n mwynhau bod yn actif ac yn ddiweddar rydw i wedi dechrau rhedeg ac yn gweithio tuag at fy 10k gyntaf. Wrth fod ym mhrifysgol, rydw i’n hoff iawn o wylio teledu neu ffilm ar y soffa gyda fy ffrindiau tŷ hyn a hyn (bron pob dydd) ond ar ôl sesiwn yn y llyfrgell wrth gwrs!