Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Enw: Ayman Rehman
Astudio: BSc Economeg
Prifysgol: Prifysgol Caerdydd
Interniaeth gyda: Cyllid
Fy Mhrofiad Hyd yn Hyn…
Helo, fy enw i yw Ayman a dwi ar fy interniaeth cyllid blwyddyn o hyd yn AaGIC, a dwi’n meddwl ei bod hi'n ddiogel dweud bydd y flwyddyn yn mynd ar garlam. Dwi'n gwybod y bydd yn llawn hwyl, cyffro a rhai heriau mawr, ond mae'r anogaeth ddi-baid gan bawb yn gwneud i mi deimlo'n barod am yr hyn fydd gan y dyfodol i’w gynnig.
Y peth cyntaf yr hoffwn dynnu sylw ato, a'r hyn a sylweddolais ar y diwrnod cyntaf, yw'r diwylliant cynnes a thosturiol sy'n amgylchynu AaGIC. Roedd setlo i mewn yn teimlo'n hawdd, fel petawn i'n cael fy nghroesawu i deulu (un mawr iawn…). Nid oes eiliad yn mynd heibio, lle nad wyf heb gefnogaeth neu ar goll, mae wedi gwneud y cyfnod cychwynnol cyfan yn esmwyth.
Mae wedi bod yn hynod ddiddorol dysgu gan rai o'r goreuon, a phrofi'n uniongyrchol y treialon a'r cystuddiau maen nhw'n eu dioddef i sicrhau eu rhan mewn Cymru sy’n ymgysylltu’n economaidd. Mae gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd a thrafodaethau mewn ystod eang o feysydd wedi bod yn ddefnyddiol i ddeall y darlun ehangach o'r hyn a wnawn yma, a'i effaith. Dwi'n cael fy annog yn gyson i gymryd mwy o gyfrifoldeb a mentro y tu allan i'm parth cysur, sy'n sicrhau fy natblygiad.
Prosiectau Gwella Ansawdd:
Ar hyn o bryd dwi'n gweithio ar brosiect sy'n edrych ar effaith economaidd AaGIC ar economi ehangach Cymru, sut mae gwerth yn cael ei asesu yn y GIG, a sut mae'r gwerth hwnnw'n cael ei fwyhau. Dwi hefyd yn edrych ar weithlu'r dyfodol yn GIG Cymru, a’r ddefnyddioldeb fydd ganddo o'i gymharu â'r gweithlu nawr.
Camau nesaf
Dwi'n gobeithio parhau i ddysgu a datblygu yn ystod fy amser yn AaGIC, trwy wthio fy hun y tu allan i'm parth cysur, ymgymryd â thasgau â mwy o gyfrifoldebau a manteisio ar unrhyw gyfleoedd sydd o'm blaen. Mae'r syniad o lunio Cymru well, nawr ac yn y dyfodol, yn fy llenwi â llawenydd, ac alla i ddim aros i weld beth arall fydd yn datblygu.
Y tu allan i'r gwaith a'r brifysgol
Dwi'n mwynhau ystod eang o hobïau, gan gynnwys chwaraeon fel badminton, pêl-droed, a jiu-jitsu (dwi'n dal i fod â gwregys gwyn ond dwi'n mwynhau'r broses). Dwi'n
chwarae gwyddbwyll, dydw i ddim yn rhy siŵr a fyddech chi'n cyfrif hynny’n chwaraeon, ond mae'n bendant yn fy nghyffroi :). Dwi hefyd yn mwynhau darllen, ysgrifennu a gwylio'r teledu!