Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Atindrya Ghosh

Enw: Atindrya Ghosh

Astudio: Gwyddorau Biofeddygol

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd

Interniaeth gyda: Tîm Efelychu a Thechnolegau Trochol

 

Cyflwyniad

Yn ystod fy ngradd, datblygais ddiddordeb mawr yn y ffordd y gall technoleg drawsnewid addysg gofal iechyd, ac mae'r interniaeth hon gyda AaGIC wedi rhoi'r cyfle i mi archwilio'r maes hwn ar lefel genedlaethol. Ymunais â'r Tîm Efelychu a Thechnolegau Trochol yn AaGIC, lle dwi'n cyfrannu at brosiect sy'n canolbwyntio ar ymgorffori technolegau trochol mewn addysg a hyfforddiant gofal iechyd ledled Cymru.

Pam mae’r Interniaeth hon wedi bod mor werthfawr

Mae'r cyfle hwn wedi bod yn hynod werthfawr gan ei fod wedi caniatáu i mi gyfuno sgiliau a ddatblygais yn ystod fy ngradd a thrwy brofiad blaenorol. Rhoddodd fy nghefndir mewn gwyddorau biofeddygol sgiliau ymchwil a dadansoddi cadarn i mi. Dwi wedi defnyddio’r rhain i adolygu tystiolaeth ac ategu dadansoddi data o weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid.

O'r diwrnod cyntaf, mae AaGIC wedi bod yn hynod groesawgar a chefnogol. Mae'r tîm wedi cysylltu â mi'n rheolaidd ac wedi darparu gweithdai a sesiynau mentora addysgiadol i helpu gyda fy natblygiad proffesiynol. Mae'r sesiynau hyn wedi dysgu cymaint i mi am yr ystod eang o lwybrau gyrfa sydd ar gael o fewn y GIG, llawer ohonynt nad oeddwn erioed wedi'u hystyried o'r blaen.

Crynodeb o'r prosiect

Nod y Prosiect Technolegau Trochol yw archwilio sut y gall offer fel VR ac AR wella dysgu mewn gofal iechyd a gwneud hyfforddiant yn fwy hygyrch, safonol, a diddorol. Mae fy mhrif gyfrifoldebau hyd yn hyn wedi cynnwys:

· Cysgodi cyfweliadau â rhanddeiliaid i ddeall eu profiadau gyda thechnolegau trochol a'u barn am sut y dylid gweithredu'r technolegau hyn ledled Cymru.

· Gweithredu offer AI cynhyrchiol i nodi'r dulliau gorau ar gyfer crynhoi a dadansoddi data ansoddol o gyfweliadau a grwpiau ffocws. Dwi hefyd wedi

rhoi argymhellion ar y platfformau AI mwyaf addas ar gyfer cynnal y dadansoddiad hwn, gan sicrhau effeithlonrwydd a chywirdeb wrth gynhyrchu mewnwelediadau gweithredol.

· Cyflwyno fy nghanfyddiadau ac argymhellion platfform AI i fwrdd y prosiect yn ystod cyfarfodydd, sydd wedi helpu i lywio trafodaethau ar y modd y gall mewnwelediadau ar sail data ategu penderfyniadau o fewn y prosiect.

· Cynnal fy ymchwil a'm profion fy hun, sydd wedi fy helpu i ddatblygu casgliadau, gwella fy sgiliau dadansoddol, a chael gwybodaeth fanwl am y dechnoleg hon sy'n esblygu'n gyflym.

Yn y dechrau

Pan ddechreuais, fy mhrif flaenoriaeth oedd datblygu dealltwriaeth drylwyr o amcanion y prosiect a'i aliniad â Strategaeth Efelychu ehangach AaGIC. Dysgais am gwmpas y prosiect, pwrpas ymarferion cwmpasu, a'r dulliau a ddefnyddir i gasglu mewnwelediadau gan randdeiliaid amrywiol ledled Cymru.

Ymgyfarwyddais hefyd â'r mathau o ddadansoddiad ansoddol y byddem yn ei gynnal ar gyfraniadau rhanddeiliaid, gan gynnwys cyfweliadau, arolygon, a sut y byddai'r canfyddiadau hynny'n llywio argymhellion ar weithredu technolegau trochol.

Yn ogystal, adolygais weithdrefnau ar gyfer cyfrinachedd a thrin data yn foesegol, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth a gasglwyd gan randdeiliaid yn cael ei storio a'i phrosesu'n ddiogel.

Y camau nesaf

Cam nesaf y prosiect yw parhau i weithio ar y ffordd fwyaf effeithiol i gynnal dadansoddiad o ddata rhanddeiliaid, gan sicrhau bod canfyddiadau'n cael eu cyflwyno'n glir ac yn gywir i lywio argymhellion. Byddaf hefyd yn edrych ar sut y gallwn elwa ymhellach o offer deallusrwydd artiffisial i wneud y broses yn fwy effeithlon, gan helpu i arbed amser wrth gynnal ansawdd a chywirdeb wrth adrodd.

Mae'r cymorth a'r ymddiriedaeth y mae fy nhîm wedi'i rhoi i mi wedi bod yn anhygoel. Mae eu proffesiynoldeb a'u hanogaeth i feddwl yn annibynnol wedi fy ngwthio i gamu allan o fy mharth cysur a synnu fy hun. Mae'r rhyddid dwi wedi'i gael yn adlewyrchu eu hyder ynof fi ac mae wedi gwneud fy ngwaith yn adlewyrchiad gwirioneddol o ddiwylliant cydweithredol a chadarnhaol y tîm.

Y tu hwnt i waith a phrifysgol

Y tu allan i'r gwaith, dwi wrth fy modd yn gwrando ar gerddoriaeth, chwarae pêl-droed, rhedeg, a chymdeithasu gyda ffrindiau a theulu. Mae cadw'n weithgar a chysylltu â phobl yn fy helpu i gydbwyso gwaith a bywyd personol.