Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Yn ystod haf 2025, croesawyd 7 myfyriwr gan AaGIC am interniaeth 8 wythnos o hyd. Treuliodd pob un ohonynt amser mewn adran benodol yn AaGIC i gael blas ar sut brofiad yw gweithio ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Mae'r rhaglen hon yn hynod fuddiol i israddedigion talentog sydd mewn addysg neu ar fin cwblhau eu rhaglen israddedig drwy ddarparu pont i brofiad cyflogaeth gwerthfawr. Mae cyfleoedd i weithio o fewn timau deinamig a gallu cyfrannu'n gadarnhaol at brosiectau allweddol ar draws AaGIC yn atyniad allweddol y rhaglen hon, ynghyd â chyfle mentor i gefnogi'r interniaid i gymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau o fewn amgylchedd busnes.
Mae'r manteision i AaGIC hefyd yn sylweddol ac yn cynnwys atyniad talent, hyrwyddo'r sefydliad a GIG Cymru fel cyflogwr a budd ymchwil gyfoes, modelau newydd a safbwyntiau gan y genhedlaeth iau.
Dywedodd Amy Whitehead, Rheolwr Cymorth Rhaglen, sy'n arwain y rhaglen interniaeth yn AaGIC ,”rydym yn falch iawn o roi'r cyfle hwn i'n interniaid gael mewnwelediad i'r llwybrau gyrfa gwerth chweil ac amrywiol sydd ar gael yn GIG Cymru.
Fel corff gweithlu strategol rydym yn angerddol am ddarparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a chyngor gyrfaol i weithlu'r dyfodol. Gobeithiwn y bydd yr amser a dreulir yn AaGIC yn annog ein interniaid i ddilyn rôl o fewn GIG Cymru”.
Yma, gallwch ddarllen am eu profiad interniaeth gydag AaGIC.