Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Gweminarau Trawsnewid y Gweithlu HEIW – HCS ac AHP - BIP Bae Abertawe

Dechrau:
09:00 - 12/02/2026
Diwedd:
12:30 - 12/02/2026
Math o ddigwyddiad:
Workshop
Lleoliad:
ar-lein

Disgrifiad

Rydym yn cynnig tair sesiwn gweminar ryngweithiol, wedi'u cynllunio i gefnogi cynllunio, datblygu a thrawsnewid y gweithlu ar draws Gwyddor Gofal Iechyd a Gweithwyr Phroffesiynol Perthynol i Iechyd. 

Pwy ddylai fynychu? 

  • Timau Gewithlu a Datblygu Sefydliadol 

  • Arweinwyr a rheolwyr gwasanaeth 

  • Arweinwyr addysg a hyfforddiant 

  • Y rhai sy'n ymwneud â chynllunio'r gweithlu ac ailgynllunio gwasanaethau 

Mae croeso cynnes i chi fynychu un sesiwn yn unig neu ymuno â'r tri—mae pob un yn sefyll ar ei ben ei hun, ond gyda'i gilydd maent yn rhoi golwg gynhwysfawr ar gefnogaeth genedlaethol i'r gweithlu, prosesau addysg a hyfforddiant, ac offer ymarferol ar gyfer trawsnewid y gweithlu. 

 

Archwiliwch y sesiynau isod a dewiswch yr hyn sydd fwyaf perthnasol i chi: 

Sesiwn 1: Deall y Cymorth Gweithlu Cenedlaethol ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd a Phroffesiynau Iechyd Perthynol. 

Mae'r sesiwn hon yn rhoi trosolwg o gynigion gweithlu cenedlaethol AaGIC ar gyfer Gwyddor Gofal Iechyd a Phroffesiynau Iechyd Perthynol, ochr yn ochr â chyfleoedd datblygu aml-broffesiynol. Bydd yn amlinellu cwmpas, bwriad ac aliniad strategol rhaglenni cyfredol, yn egluro pwy y maent wedi'u cynllunio i'w cefnogi, ac yn archwilio sut y gellir eu defnyddio i alluogi cynllunio gweithlu lleol a datblygu gwasanaethau. 

 

Sesiwn 2: Llywio Prosesau Addysg a Hyfforddiant: Llwybrau Ariannu, Cynllunio a Llywodraethu 

Bydd y sesiwn hon yn egluro'r mecanweithiau a'r prosesau sy'n sail i addysg a hyfforddiant ar draws GIG Cymru. Bydd yn trafod sut mae'r Cynllun Addysg a Hyfforddiant yn gweithredu, llwybrau i gyllido addysg ôl-raddedig, a'r strwythurau llywodraethu sy'n llywio gwneud penderfyniadau. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar sut mae'r system yn gweithio, yn hytrach nag argaeledd neu hawl, er mwyn cefnogi cynllunio gweithlu gwybodus a realistig. 

 

Sesiwn 3: Cymhwyso Fframwaith Gyrfaoedd Gwyddor Gofal Iechyd i Gefnogi Trawsnewid y Gweithlu 

Bydd y sesiwn hon yn archwilio sut y gellir defnyddio'r Fframwaith Gyrfa Gwyddor Gofal Iechyd fel offeryn ymarferol i gefnogi trawsnewid y gweithlu ar lefel y bwrdd iechyd. Trwy senarios ac astudiaethau achos, bydd cyfranogwyr yn ystyried sut y gellir defnyddio llwybrau gyrfa, datblygu rolau a chymysgedd sgiliau i fynd i'r afael ag anghenion gwasanaeth, cefnogi cynaliadwyedd a galluogi datblygiad gweithlu hirdymor. 

Er mwyn cael y dolenni i ymuno â phob sesiwn, cofrestrwch drwy Eventbrite: HEIW Workforce Transformation HCS and AHP Webinars - SBUHB Tickets, Thu, 12 Feb 2026 at 09:00 | Eventbrite