Neidio i'r prif gynnwy

Codi pryder a chodi llais heb ofn ar gyfer hyfforddeion meddygol a deintyddol

Diolch am gyrchu’r adran 'Sut i Godi Pryder'. Mae hwn yn faes hynod bwysig, pa bynnag bryder sydd gennych.

Gwerthfawrogwn y gall hyn fod yn anodd, ond gallwn eich sicrhau y caiff eich pryder ei reoli’n gydymdeimladol a byddwn yn eich cefnogi drwy gydol y broses. Cofiwch, yn ogystal â'r prosesau a amlinellir isod, y gellir cael cymorth unigol gan yr Uned Cymorth Proffesiynol.

Rydym yn gwahaniaethu pryderon yn ddau gategori. 

1. Pryderon ynghylch ymddygiad amhroffesiynol
Mae hyn yn cynnwys anghwrteisi, bwlio, aflonyddu, gwahaniaethu ac ymosodiad rhywiol. Mae ymddygiad o'r fath bob amser yn annerbyniol boed gan gydweithwyr meddygol, staff y GIG, neu gleifion a'u perthnasau. Mae'r canlyniadau'n effeithio nid yn unig ar y rhai sy'n cael eu cam-drin , ond hefyd ar dystion a phryderon ynghylch diogelwch cleifion yn codi.

Er mwyn eich diogelu chi, y cleifion a chydweithwyr, mae'n bwysig eich bod yn rhannu eich profiad gyda ni. Am ragor o wybodaeth edrychwch ar ein Polisi a chanllawiau codi pryder.

​​​​2. Pryderon ynghylch hyfforddiant
Mae hyn yn cynnwys mynediad i gyfleoedd dysgu priodol, cefnogaeth gyda datblygiad a dilyniant ac yn y blaen.


Sut gallwch chi godi pryder a chodi llais heb ofn?

Mae eich adborth yn bwysig