Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom ni

Trawsnewid y gweithlu ar gyfer Cymru Iachach 

Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r sefydliad addysg statudol a gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru. 

Fel Awdurdod Iechyd Arbennig gyda chylch gwaith Cymru gyfan, rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a’r llywodraeth i gryfhau'r gweithlu sy'n sail i ofal yn GIG Cymru. 

Fel y corff cenedlaethol ar gyfer cynllunio'r gweithlu, addysg, hyfforddiant ac arweinyddiaeth, rydym yn chwarae rhan ar draws y system gyfan wrth helpu GIG Cymru i ymateb i anghenion y gweithlu presennol a'r dyfodol.

 

Pam rydyn ni'n bodoli 

Mae'r system iechyd a gofal yn wynebu heriau cynyddol a chymhleth, gan gynnwys; prinder yn y gweithlu, anghenion newidiol y boblogaeth, modelau gofal newydd a datblygiadau cyflym mewn ymarfer digidol a chlinigol. 

Mae'r her i'r gweithlu yn genedlaethol, yn hirdymor ac yn aml-broffesiynol. Ein rôl ni yw darparu cyfeiriad cenedlaethol clir, gwybodaeth am y gweithlu o ansawdd uchel, ac atebion Unwaith i Gymru sy'n cefnogi gwasanaethau cynaliadwy ledled Cymru. 

Ein rôl ni yw helpu'r system i ymateb i'r heriau hyn drwy: 

  • cynllunio ar gyfer y gweithlu sydd ei angen ar Gymru 
  • datblygu sgiliau a hyder pobl ym mhob cam o'u gyrfa 
  • cefnogi trawsnewid fel y gall gwasanaethau addasu a gwella 

Yn y pen draw, mae ein gwaith yn helpu i wella ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd gofal ledled Cymru. 

 

Ein gweledigaeth, ein pwrpas a'n gwerthoedd 
 

Trawsnewid y gweithlu ar gyfer Cymru iachach drwy bartneriaeth, datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth.

Mae ein diwylliant yn cael ei lunio gyda'n staff ac yn cael ei arwain gan: 

 

Gyda phwy rydyn ni'n gweithio 

Rydym yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ar draws y system iechyd a gofal, gan gynnwys: 

  • myfyrwyr, hyfforddeion a dysgwyr 
  • Sefydliadau'r GIG, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau 
  • prifysgolion a darparwyr addysg 
  • cyrff proffesiynol a rheoleiddwyr 
  • Llywodraeth Cymru a phartneriaid cenedlaethol 

Rydym yn dod â phobl ynghyd i gefnogi blaenoriaethau cyffredin a gwelliant hirdymor i'r gweithlu ledled Cymru. 

 

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud 

Rydym yn darparu arweinyddiaeth strategol genedlaethol ar draws addysg, cynllunio'r gweithlu a thrawsnewid. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar nifer o feysydd craidd: 

 

Ein heffaith 

Rydym yn ychwanegu gwerth at y system iechyd a gofal yng Nghymru drwy: 

  • Cryfhau cynaliadwyedd y gweithlu drwy well gynllunio, recriwtio a chadw staff  
  • Gwella deallusrwydd a mewnwelediadau y gweithlu i gefnogi gwneud penderfyniadau cenedlaethol 
  • Cyflymu parodrwydd y gweithlu mewn meysydd o flaenoriaeth a phrinder 
  • Cefnogi integreiddio ar draws iechyd a gofal cymdeithasol 
  • Datblygu sgiliau ar gyfer y dyfodol drwy ddysgu digidol, efelychu, deallusrwydd artiffisial a modelau addysg modern 
  • Ymgorffori arweinyddiaeth dosturiol ac arfer cynhwysol 
  • Datblygu datrysiadau gweithlu cenedlaethol sy'n gwella ansawdd a chynhyrchiant

 

Sut rydym yn cael ein llywodraethu

Gan eistedd ochr yn ochr â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd fel rhan o GIG Cymru, mae ein gwaith yn cael ei arwain gan bolisi cenedlaethol a'r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac yn cael ei gyflawni trwy ein Cynllun Tymor Canolig Integredig
 

 
 

 

Darganfyddwch fwy

Am wybodaeth fanylach am ein rôl, ein heffaith a'n cyflawniadau, gallwch hefyd ddarllen ein llyfryn sefydliadol.