Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yw'r sefydliad addysg statudol a gweithlu strategol ar gyfer GIG Cymru.
Fel Awdurdod Iechyd Arbennig gyda chylch gwaith Cymru gyfan, rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a’r llywodraeth i gryfhau'r gweithlu sy'n sail i ofal yn GIG Cymru.
Ein rôl ni yw helpu i sicrhau bod y bobl gywir, gyda'r sgiliau cywir, yn y lle cywir, ar yr amser cywir i ddarparu gofal o ansawdd uchel i gleifion a chymunedau, nawr ac ar gyfer y dyfodol.
Mae'r system iechyd a gofal yn wynebu heriau cynyddol a chymhleth, gan gynnwys; prinder yn y gweithlu, anghenion newidiol y boblogaeth, modelau gofal newydd a datblygiadau cyflym mewn ymarfer digidol a chlinigol.
Ein rôl ni yw helpu'r system i ymateb i'r heriau hyn drwy:
Yn y pen draw, mae ein gwaith yn helpu i wella ansawdd, diogelwch a chynaliadwyedd gofal ledled Cymru.
Trawsnewid y gweithlu ar gyfer Cymru iachach.
Ein gweledigaeth yw datblygu gweithlu medrus a chynaliadwy sy'n gwella gofal ac iechyd y boblogaeth.
Mae ein diwylliant yn cael ei lunio gyda'n staff ac yn cael ei arwain gan:
Rydym yn gweithio gyda phobl a sefydliadau ar draws y system iechyd a gofal, gan gynnwys:
Rydym yn dod â phobl ynghyd i gefnogi blaenoriaethau cyffredin a gwelliant hirdymor i'r gweithlu ledled Cymru.
Rydym yn darparu arweinyddiaeth strategol genedlaethol ar draws addysg, cynllunio'r gweithlu a thrawsnewid. Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar nifer o feysydd craidd:
Er mwyn cefnogi datblygiad a chynaliadwyedd y gweithlu, rydym yn cynhyrchu Cynllun Addysg a Hyfforddiant (ETP) blynyddol gydag argymhellion ar draws y rhan fwyaf o broffesiynau gofal iechyd, ac yn buddsoddi dros 85% o'n cyllideb o £351.657m yn uniongyrchol mewn addysg a hyfforddiant, gan gynnwys ehangu mynediad trwy brentisiaethau, dysgu seiliedig ar waith, a modelau aml broffesiynol.
Troi data a mewnwelediadau cenedlaethol am y gweithlu mewn i dystiolaeth sy'n llywio polisi, cynllunio a chyflawni ar lefel genedlaethol a lleol.
Uwchsgilio staff, cefnogi rolau newydd ac esblygol, ailgynllunio gwasanaethau, a galluogi datblygiad proffesiynol parhaus a llwybrau gyrfa hyblyg.
Datblygu arweinwyr tosturiol, ymgorffori diwylliannau cynhwysol, ac adeiladu piblinell dalent ac olyniaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Hyrwyddo gyrfaoedd iechyd a gofal a lleihau rhwystrau i fynediad a datblygiad i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
Cryfhau'r proffesiwn Pobl i greu gweithleoedd cefnogol ac effeithiol.
Rydym yn ychwanegu gwerth at y system iechyd a gofal yng Nghymru drwy:
Gan eistedd ochr yn ochr â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd fel rhan o GIG Cymru, mae ein gwaith yn cael ei arwain gan bolisi cenedlaethol a'r Strategaeth Gweithlu ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac yn cael ei gyflawni trwy ein Cynllun Tymor Canolig Integredig.
Am wybodaeth fanylach am ein rôl, ein heffaith a'n cyflawniadau, gallwch hefyd ddarllen ein llyfryn sefydliadol.