Porth addysg AaGIC ar gyfer staff iechyd a gofal yng Nghymru.
Wedi'i lansio ym mis Rhagfyr 2022, caiff cynnig addysg ar-lein AaGIC ei reoli trwy Y Ty Dysgu. Mae'r system dysgu a rheoli digwyddiadau yn darparu mynediad at ystod eang o adnoddau addysgol, digwyddiadau a recordiadau DPP byw, e-ddysgu a rhwydweithiau cymunedol ymarfer.
Mae dysgwyr ar draws y gweithlu yn elwa ar addysg a ddatblygwyd gan arbenigwyr pwnc blaenllaw ar bynciau sy'n ymwneud ag arfer bob dydd.
Gall pawb sy'n cael eu cyflogi yn y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru gofrestru am gyfrif am ddim i archwilio ein llyfrgell gynyddol o adnoddau. Bydd defnyddwyr GIG Cymru yn elwa o ymarferoldeb Mewngofnodi Sengl (SSO) cyflym, di-dor ar ôl cofrestru.