Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Dychwelyd i Ymarfer Meddygon Teulu

Rhaglen Dychwelyd i Ymarfer (RtP) (ar gyfer meddygon teulu cymwys yn y DU)

Mae’r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer (RtP) yn darparu llwybr diogel, â chymorth i feddygon teulu cymwysedig sy’n dymuno dychwelyd i Ymarfer Cyffredinol y GIG ar ôl absenoldeb.

Mae’r rhaglen Dychwelyd i Ymarfer (RtP) wedi’i chynllunio ar gyfer Meddygon Teulu sydd wedi bod ar Gofrestr Meddygon Teulu y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a Rhestr Cyflawnwyr Meddygol Cymru Gyfan (MPL) ac a hoffai ddychwelyd i weithio mewn practis cyffredinol ar ôl  seibiant yn eu gyrfa.

Mae'r rhaglen yn cynnig llwybrau personol yn seiliedig ar anghenion unigol pob meddyg teulu sy'n dychwelyd.

Mae'n ofynnol i bob Meddyg Teulu fod ar Gofrestr Meddygon Teulu'r GMC gyda Thrwydded i Ymarfer ac MPL Cymru Gyfan.