Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd deintyddol y cyhoedd

Mae Iechyd Deintyddol Cyhoeddus yn arbenigedd deintyddol sy’n cwmpasu gwyddor a chelfyddyd atal clefydau’r geg, a hybu iechyd geneuol y boblogaeth yn hytrach na’r unigolyn. Mae’n golygu asesu anghenion iechyd deintyddol a sicrhau bod gwasanaethau deintyddol yn diwallu’r anghenion hynny.

Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i arfogi’r hyfforddai â’r sgiliau angenrheidiol i ymarfer fel Ymgynghorydd mewn Iechyd Deintyddol Cyhoeddus.

Diffinnir y rhain yn y cwricwlwm a ragnodir gan y canlynol: Cwricwla arbenigol

Yng Nghymru, mae’r hyfforddiant wedi’i leoli yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Er mwyn bodloni gofynion y rhaglen hyfforddi a gymeradwywyd gan SAC, mae’n rhaid i’r hyfforddeion weithio gydag amrywiaeth o asiantaethau ac unigolion yn y GIG a’r tu allan iddo. Mae gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus yn rhan o’r rhaglen hyfforddi. Mae’r hyfforddiant fel arfer yn rhaglen bedair blynedd wedi’i chymeradwyo gan y Ddeoniaeth Ôl-raddedigion ym maes Deintyddiaeth. Mae gan bob swydd Rif Hyfforddiant Cenedlaethol ac mae’n arwain at Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen isod.

Beth yw Iechyd Deintyddol Cyhoeddus?

Cyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi a Chadeirydd y Pwyllgor Hyfforddiant Arbenigol – Dr Mary Wilson, Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus Deintyddol, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rheolwr Hyfforddiant Arbenigol Fran Yuen-Lee