Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gwên yn y yn y ddeintyddfa

Mae Cynllun Gwên yn y ddeintyddfa yn addas ar gyfer holl aelodau’r tîm deintyddol sydd wedi cofrestru gyda’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (CDC). Hoffem yn arbennig annog gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol (hylenwyr deintyddol, therapyddion deintyddol a nyrsys deintyddol) i ystyried cofrestru i gymryd rhan. Mae’r cwrs yn tywys gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth drwy brosiect gwella ansawdd ar-lein i wreiddio gofal ataliol seiliedig ar dystiolaeth a chyngor i blant rhwng 0 a 6 oed yn eu practis.

Datblygiad Proffesiynol Parhaus Dilys – Mae cwblhau’r cwrs hwn yn bodloni meini prawf addysgol y CDC ar gyfer 5 awr o ddatblygiad personol parhaus (DPP) gwiriadwy.
 

Sut i Gofrestru
  • Sylwch fod yn rhaid i bob cofrestrai gwblhau'r modiwl Sylfeini mewn Gwelliant neu'r IQT Efydd cyn cofrestru ar y cwrs hwn.
  • I gofrestru ar y cwrs hwn dilynwch y ddolen hon https://forms.office.com/e/bgDgYQgBzR i gwblhau a chyflwyno'r ffurflen gofrestru.
  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â HEIW.D2S@wales.nhs.uk