Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.

Her 9 - Offeryn hunan-fyfyrio/ adborth

Croeso i Her 9. Mae Her 9 yn cynnwys dwy dasg:

1. Rydym yn eich gwahodd i ailymweld â’r offeryn hunanfyfyrio i ddirnad sut mae eich cymhwysedd diwylliannol wedi datblygu’n ystod yr ymgyrch.

Ydy eich sgôr wedi newid ers i chi gwblhau hwn am y tro cyntaf yn ystod Her 1? Cofiwch mai rhan o ddysgu gydol oes yw dod yn ddiwylliannol gymwys ac mai’r hyn sydd bwysicaf yw eich cynnydd ar hyd y daith. Myfyriwch ar yr hyn yr ydych wedi’i ddysgu yn ystod yr ymgyrch, sut rydych wedi’i weithredu yn eich ymarfer, a’r camau yr ydych yn bwriadu eu canlyn nesaf ar eich taith o ddatblygu cymhwysedd diwylliannol.

2. Cwblhewch yr holiadur hwn i roi adborth i ni fel y gallwn ddatblygu a gwella'r hyn a gynigir yn ystod ymgyrchoedd yn y dyfodol.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau gweithio drwy'r heriau o fewn yr ymgyrch hon.