Neidio i'r prif gynnwy

Manteision ymuno â Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Two students during the forum

Ymhlith manteision ymuno â’r fforwm mae:

  • amser i fynd i gyfarfodydd, fydd yn cael eu cyfrif fel oriau ar leoliad
  • cyfleoedd rhwydweithio gan gynnwys gyda ffigurau proffil uchel yn y GIG, prifysgolion a

Llywodraeth Cymru

  • cymorth cyfoedion gan aelodau presennol y fforwm a chyn-aelodau’r fforwm
  • hunan-ddatblygu
  • adeiladu sgiliau cyfathrebu a chydweithio
  • magu hyder
  • cyfleoedd i glywed siaradwyr ysbrydoledig a chymhellol
  • cyfleoedd i roi mewnbwn i bolisïau ac arferion addysgol gofal iechyd cenedlaethol
  • cymryd rhan mewn amgylchedd dysgu efelychiadol rhyngddisgyblaethol
  • edrych yn wych ar eich CV!
  • cael tystysgrif

Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) gytundeb gyda phrifysgolion Cymru, sy’n nodi y bydd myfyrwyr sy’n mynd i gyfarfodydd fforwm a chymryd rhan ynddynt yn derbyn oriau ar leoliad am yr amser hwn. Er mwyn hawlio’r oriau hyn, bydd cofrestr yn cael ei chynnal ddwywaith yn ystod y cyfarfod, a bydd AaGIC yn rhoi gwybod i’ch prifysgol eich bod wedi mynychu. Caiff gweithgareddau myfyrwyr eu cofnodi, ac os na fydd myfyrwyr yn mynd i ddau allan o dri o’r cyfarfodydd, mae’n bosibl y bydd yr aelodaeth yn cael ei ganslo. Os na all myfyrwyr fynychu cyfarfod, bydd angen anfon ymddiheuriadau.

Mynediad at borth ar-lein WHSF

Peilot tri mis yw’r porth hwn, felly mae ymgysylltiad yn hanfodol i’w lwyddiant .

Mae’r porth yn fantais ychwanegol i’r myfyrwyr hynny sy’n parchu ymrwymiadau’r fforwm. Mae’n adnodd digidol dwyieithog sy’n rhoi mynediad at ystod eang o wybodaeth, adnoddau a rhwydweithiau y gall myfyrwyr ymgysylltu â nhw a hyrwyddo gweithio amlddisgyblaethol.

Defnyddiwyd dull cynhwysol wrth ddatblygu’r dudalen hon er mwyn sicrhau y gall gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol a hyrwyddo tegwch o ran cael mynediad at gyfleoedd dysgu ledled Cymru.

Bydd y porth yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu ag ystod o fyfyrwyr iechyd cyn-cofrestru ledled Cymru yn y rhwydwaith WHSF, a thrafod gwybodaeth benodol i’r pwnc yn eu rhwydwaith unigol eu hunain.