Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfodydd Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF)

Collage of images showing food, football pitch and students

Cynhelir cyfarfodydd drwy lwyfannau rhithwir, a bydd angen i fyfyrwyr gofrestru ar gyfer pob cyfarfod o leiaf wythnos ymlaen llaw. Gallwch gofrestru drwy ddolen sydd ar gael gan rwydwaith Fforwm

Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF). Bydd angen i fyfyrwyr anfon ymddiheuriadau os na fyddant yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod.

Bydd cofnodion o’r cyfarfod yn cael eu cymryd, ac yn cael eu hanfon at bob myfyriwr ar ôl y cyfarfod.

Felly, beth sy’n digwydd mewn cyfarfod?

Ar ddechrau’r cyfarfod, bydd cofrestr yn cael ei chynnal, ac agenda yn cael ei anfon at fyfyrwyr i roi gwybod iddynt am beth i’w ddisgwyl.

Dyma enghreifftiau o eitemau agenda:

  • croeso a chyflwyniadau
  • sesiwn holi ac ateb gydag arweinwyr Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC)
  • cynulleidfaoedd gyda siaradwyr arbenigol ac ysbrydoledig
  • cyflwyniadau myfyrwyr
  • cyflwyniadau gan gleifion am eu profiadau
  • trafodaethau agored
  • rhyngweithio gyda phrifysgolion/Bwrdd Iechyd a gyrfaoedd.

Gall yr agendâu newid, ac maent yn cael eu creu ar sail awgrymiadau myfyrwyr ac agenda gan AaGIC. Mae hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i gael mewnbwn ymarferol ar brosiectau gwaith presennol comisiynwyr addysg gofal iechyd, yn ogystal â datblygiad a pholisïau.

Yn ystod cyfarfod fforwm, anogir myfyrwyr i weithio mewn timau amlddisgyblaethol yn ogystal â gweithio o fewn eu harbenigeddau eu hunain mewn grwpiau bach wrth greu adnodau a chymryd rhan mewn sesiynau ymgysylltiol.

Ar ddiwedd cyfarfod, cawn sesiwn ‘dweud eich dweud’, sy’n sesiynau agored ble bydd pob aelod yn gallu codi unrhyw fater.

Rydym yn cau’r cyfarfod drwy drefnu dyddiad y fforwm nesaf, a thrafod eitemau agenda ar gyfer cyfarfodydd pellach.