Neidio i'r prif gynnwy

Beth mae cyn-aelodau ac aelodau presennol yn ei ddweud?

Two members of the WHSF

Jonathan Cliffe

  • Myfyriwr Bydwreigiaeth yn y 3edd Flwyddyn, Prifysgol Bangor

Rwyf wedi bod yn aelod o Fforwm Myfyrwyr Iechyd Cymru (WHSF) ers ychydig dros flwyddyn, ac yn ystod y cyfnod rwyf wedi bod yn Gynrychiolydd Prifysgol ar ran Prifysgol Bangor.

Fel myfyriwr bydwreigiaeth fydd yn cymhwyso cyn bo hir, credaf fod y WHSF wedi chwarae rhan hanfodol o ran adeiladu fy hyder, oherwydd nid yn unig yw WHSF yn galluogi myfyrwyr i rannu gwybodaeth, sgiliau a phrofiad, mae hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr i godi materion er mwyn gwella ansawdd addysg yng Nghymru.

Mae’r fforwm wedi fy ngalluogi i ryngweithio gyda chyd-fyfyrwyr o sawl disgyblaeth gofal iechyd, gan felly ehangu fy ngwybodaeth am feysydd eraill o iechyd. Mae’n rhywbeth fydd yn aros gyda fi wrth i mi symud at weithio proffesiynol.

Tim Nagle

  • Myfyriwr Nyrsio (Iechyd Meddwl) yn y Flwyddyn 1af, Prifysgol Caerdydd

Trefnais ddiwrnod dysgu ymyriadau alcohol cryno ar gyfer WHSF. Cafodd bawb wnaeth fynychu gyfle i ddysgu gan reoleiddwyr sut all camddefnyddio sylweddau effeithio ar eu cofrestriad proffesiynol.

Rhoddodd gyfle hefyd i ddefnyddwyr gwasanaeth siarad am eu gwellhad, a pha mor hir yr hoffent gael gofal. Cafodd bawb wnaeth fynychu hyfforddiant ar ymyriadau alcohol cryno, ymyriad defnyddiol i bob disgyblaeth gofal iechyd.

Hayley Forbes

  • Myfyriwr Bydwreigiaeth yn yr 2il Flwyddyn, Prifysgol Caerdydd

Drwy’r WHSF, rwyf wedi cael gwybodaeth na fyddwn wedi’i dysgu yn rhan o fy ngradd.

Mae gen i ddealltwriaeth well o sut mae’r GIG yn cael ei redeg, a chredaf fod gennyf gyfres o sgiliau ehangach gan fy mod wedi mynd i sesiynau hyfforddiant ychwanegol mewn pynciau megis y Gymraeg ac ymyriadau alcohol cryno. Mae siarad â’r proffesiynau amrywiol ar y fforwm wedi ehangu fy ngwybodaeth am y GIG drwy fy ngalluogi i edrych y tu hwnt i’m harbenigedd fy hun.

Mae fy sgiliau gweithio mewn tîm wedi gwella drwy weithgareddau adeiladu tîm megis ymestyn meddygol a chael cyfle i fod yn aelod o’r pwyllgor.

Mae bod yn rhan o’r fforwm wedi fy ngalluogi i gael dweud fy nweud ar sut fydd dyfodol y GIG yn edrych, drwy roi cyfleoedd i mi fynegi barn ar faterion na fyddwn wedi gwybod amdanynt fel arall. Yn bwysicach fyth, mae’n hwyl dda!