Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Gall staff nawr ymweld â’r ‘Porth Covid-19 Lles Staff GIG Cymru’ sy’n darparu adnoddau iechyd a lles i gefnogi staff yn ystod yr adeg anodd hon.
Mae adnoddau adfer dysgu ymarfer Covid-19 Cymru Gyfan a ddatblygwyd gan AaGIC mewn partneriaeth â phrifysgolion, Byrddau Iechyd a rhanddeiliaid allweddol ledled Cymru, yn darparu ystod o ddeunyddiau i gefnogi mynediad diogel myfyrwyr gofal iechyd i leoliadau ymarfer yn ystod yr amser hwn.
Gellir gweld canllawiau Offer Amddiffyn Personol (PPE) ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a dolenni cysylltiedig yma.
Y canllawiau diweddaraf i myfyrwyr nyrsio, bydwreigiaeth a proffesiynau perthynol i iechyd mewn ymateb i COVID-19. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y dogfennau diweddaraf. Bydd dogfennau nad ydynt bellach yn ddilys yn cael eu marcio fel rhai 'wedi'u harchifo' ond maent ar gael o hyd er gwybodaeth.