Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Croeso i dudalen we Cynhadledd Rhannu Rhagoriaeth Hyfforddiant mewn Addysg Meddygol (STEME) 2025.
Cynhelir y gynhadledd wyneb yn wyneb hon yn Stadiwm Swansea.com ddydd Mawrth 23 Medi 2025 ac mae ar agor yn bennaf i hyfforddwyr meddygol sy'n ymgymryd â rolau hyfforddi mewn gofal eilaidd neu addysg israddedig. (Nodyn: rhaid cofrestru pob cynrychiolydd ymlaen llaw).
Nod y digwyddiad yw rhoi cyfle i hyfforddwyr meddygol ar draws GIG Cymru ddod ynghyd i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau i'w cefnogi i gyflawni eu rolau hyfforddi yn effeithiol.
Thema cynhadledd eleni yw 'Addysgu a Datblygu Hyfforddwyr i Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf'.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gynhadledd hon, anfonwch e-bost at Uned Ansawdd AaGIC yn HEIW.SRE@wales.nhs.uk
Cliciwch y botymau isod i gael mynediad at Raglen y Gynhadledd a gwybodaeth ddefnyddiol arall.