Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio

Doctor smiling

Mae nyrsys yn arbenigwyr clinigol wedi'u hyfforddi i safon gradd sy'n chwarae rhan hanfodol yn iechyd a lles cleifion.

Gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ochr yn ochr â meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill mae nyrsys yn darparu triniaeth a gofal i gleifion mewn amrywiaeth o leoliadau gofal meddygol a chymdeithasol, gan weithredu fel arweinwyr, gofalwyr a chlinigwyr.

Mae AaGIC yn comisiynu cyrsiau nyrsio lluosog ym mhrifysgolion Cymru i ddiwallu anghenion gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru gan gynnwys Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant, Nyrsio Anabledd Dysgu a Nyrsio Iechyd Meddwl.

Bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn gymwys i gael eu ffioedd cwrs wedi'u hariannu'n llawn ynghyd â bwrsariaeth na ellir ei had-dalu sy'n profi cefnogaeth ariannol ledled y brifysgol.

Canllawiau Prifysgol i Dreuliau Lleoliadau Ymarfer ar gyfer myfyrwyr bwrsariaeth GIG Cymru.

Canllawiau ar gyfer Rhaglenni Gradd Cyn Cofrestru mewn Nyrsio.

Cwrs Lleoliad Hyd
BSc/BN (Anrh) Nyrsio (Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl) 3 blynedd Llaw n amser
BSc/BN (Anrh) Nyrsio (Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl) 4 blynedd Rhan amser
BSc/BN (Anrh) Nyrsio (Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl) 2 flynedd ar gyfer HCSW Llawn amser
PG Dip/MSc Nyrsio (Oedolion, Plant, Iechyd Meddwl) 2 flynedd Llawn amser
BSc/BN (Anrh) Nyrsio (Anabledd Dysgu) 3 blynedd Llawn amser