Mae'r wefan hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac efallai na fydd rhai nodweddion ar gael dros dro.
Diolch am eich amynedd wrth i ni weithio i wella eich profiad.
Mae'r rhwydwaith gwyddor gofal iechyd yn grŵp o weithwyr proffesiynol profiadol sy'n cynrychioli pob maes o wyddor gofal iechyd.
Pwrpas y rhwydwaith yw llywio cyfeiriad y rhaglen gwyddor gofal iechyd.
Mae'n gwneud hyn drwy:
Fel aelod o broffesiwn gwyddor gofal iechyd, gallwch gysylltu â chynrychiolydd eich proffesiwn i rannu eich barn neu ddeall yn well beth sy'n digwydd yn eich proffesiwn. I wneud hyn, cysylltwch â'n Tîm Gwyddor Gofal Iechyd a byddwn yn eich cysylltu â'r person cywir.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn cynnig cyfleoedd cysgodi i weithwyr proffesiynol gwyddor gofal iechyd sydd eisiau ennill profiad mewn cyfarfodydd strategol a datblygiadau ar lefel genedlaethol. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer:
Cynigir cysgodi i gefnogi datblygiad gyrfa a chynllunio olyniaeth o fewn gwyddor gofal iechyd. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni, a byddwn yn eich helpu i archwilio'r cyfle hwn.