Neidio i'r prif gynnwy

System Rheoli Dysgu a Gwerthuso'r Diwrnod Astudio

Mae ein System Rheoli Dysgu – Y Tŷ Dysgu, yn blatfform ar gyfer y proffesiwn gofal iechyd ledled Cymru. Y Tŷ Dysgu yw'r platfform ar-lein lle gallwch weld a chael mynediad at y diwrnodau astudio sydd wedi'u trefnu, ond mae hefyd yn cynnwys cyrsiau a deunyddiau dysgu ychwanegol, y gallwch edrych arnynt yn eich amser eich hun neu fel rhan o'r lwfans astudio hunangyfeiriedig y cytunwyd arno.

Bydd angen i chi gofrestru ar y wefan a byddwn yn eich ychwanegu at ffolder cynnwys sy'n berthnasol i'ch rhaglen.  Pan fyddwch yn dechrau eich hyfforddiant, gallwch fewngofnodi i'r safle a byddwch yn gallu gweld y digwyddiadau astudio a'r deunyddiau perthnasol ar gyfer eich cynllun. Ar ôl i ddiwrnod astudio gael ei gyflwyno, bydd angen i chi fewngofnodi i'r safle a gwerthuso'r sesiwn. Bydd hyn wedyn yn cynhyrchu tystysgrif y bydd angen ei lanlwytho i'r E-Bortffolio. 

Gallwch fynd i wefan Y Tŷ Dysgu yn: https://ytydysgu.heiw.wales