Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Lleoliadau a Rhaglenni Hyfforddi – Addysg a Hyfforddiant

Pwyllgorau Hyfforddiant Arbenigol

Dim ond i hyfforddiant arbenigol y mae Pwyllgorau Hyfforddiant Arbenigol yn berthnasol. Fel arfer maent yn bwyllgorau cynghori sy'n benodol i arbenigedd. Maent yn gweithredu ar ran y Deon Deintyddol Ôl-raddedig ac yn delio â phob agwedd ar hyfforddiant arbenigol.

Prif swyddogaethau’r Pwyllgorau Hyfforddiant Arbenigol yw:

  • Gweithredu polisïau, safonau a rheoliadau ar gyfer hyfforddiant arbenigol gan ystyried gofynion y Cydbwyllgor ar gyfer Hyfforddiant Ôl-raddedig mewn Deintyddiaeth (JCPTD) a'r Pwyllgor Cynghori Arbenigol perthnasol
  • Hwyluso'r gwaith o gyflwyno rhaglenni hyfforddi
  • Adolygu a monitro cynnydd pob hyfforddai yn rheolaidd, gan gynnwys adolygu canlyniadau ARCP a ddyfarnwyd gan banel rhanbarthol/cenedlaethol
  • Cysylltu â chyrff cenedlaethol eraill sy'n ymwneud â hyfforddiant arbenigol
  • Darparu fforwm ar gyfer trafod pob mater sy'n ymwneud â hyfforddiant arbenigol

 

 

Y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)

Mae'r GDC yn sicrhau ansawdd hyfforddiant arbenigol yn unol â'r safonau a'r gofynion a nodir yn y Safonau ar gyfer Addysg Arbenigol: standards-for-specialty-education_201957938ec311144e9ba74d9565d7b1b118.pdf (gdc-uk.org)