Croeso cynnes i’r Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a’r cam nesaf yn eich gyrfa yn y byd deintyddol. Mae AaGIC yn Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru ac mae'n eistedd ochr yn ochr â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru. Mae gan AaGIC rôl arweiniol yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a siapio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, gyda’r nod o sicrhau gofal o safon uchel i bobl Cymru.
Cynhyrchwyd y llawlyfr hwn i roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi yn ystod eich hyfforddiant deintyddol arbenigol. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau ei gywirdeb, i’ch helpu i fynd drwy’r amrywiol brosesau hyfforddi a gweinyddol sy’n ganolog i’ch hyfforddiant a’ch datblygiad gyrfaol. Rwy’n gobeithio y bydd o ddefnydd i chi.
Gobeithio y byddwch yn gwneud llawer o ffrindiau ac yn datblygu rhwydweithiau gwerthfawr yn ystod eich hyfforddiant deintyddol arbenigol, a fydd yn para am oes.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon am y rhaglen hyfforddi neu unrhyw faterion cysylltiedig nad oes modd eu datrys yn hwylus yn lleol yn eich gweithle, rhowch wybod i ni: bydd Cyfarwyddwr eich Rhaglen Hyfforddi, eich Goruchwyliwr Addysgol a staff AaGIC bob amser yn barod i helpu.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant i chi yn ystod eich hyfforddiant deintyddol arbenigol ac wrth ddatblygu a chyflawni eich dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Yn gywir,

Kirstie Moons
Deon Deintyddol Ôl-raddedig
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
