Neidio i'r prif gynnwy

Hyblygrwydd a Chymorth wrth Hyfforddi

Hyfforddiant Llai na Llawn Amser (LTFT)

Mae hyfforddiant Llai na Llawn Amser (LTFT) (neu hyfforddiant rhan-amser) bellach yn rhan annatod o Hyfforddiant Ôl-raddedig yng Nghymru. Mae gennym agwedd hyblyg at hyfforddiant LTFT; gall pob hyfforddai wneud cais i hyfforddi ar sail llai na llawn amser. Mae AaGIC, ynghyd â Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi, wedi ymrwymo i reoli hyfforddiant LTFT mewn modd sy’n sicrhau ei fod ar gael i gynifer o hyfforddeion â phosibl. Os ydych chi'n dymuno hyfforddi ar sail LTFT, edrychwch ar Dental Gold Guide 2025 – COPDEND ac LTFT – AaGIC (gig.cymru) i gael rhagor o wybodaeth, neu cysylltwch â Rheolwr yr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol.

 

Cymryd amser allan o'r rhaglen gymeradwy (OOP)

Mae cymryd amser allan o’r rhaglen (OOP) yn fater sy’n cael ei reoli gan y Canllaw Aur, sy’n nodi’r trefniadau y mae’r pedair gwlad wedi cytuno arnynt: Dental Gold Guide 2025 – COPDEND . Gall hyfforddai ddymuno cymryd amser allan o’i raglen gymeradwy am sawl rheswm:

  • Allan o’r Rhaglen ar gyfer Profiad (OOPE)
  • Allan o’r Rhaglen ar gyfer Ymchwil (OOPR)
  • Allan o’r Rhaglen ar gyfer Hyfforddiant (OOPT)
  • Allan o’r Rhaglen ar gyfer Seibiant Gyrfa (OOPC)

 

Mae angen trafod a chytuno ar bob cais OOP gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Hyfforddi cyn ei gyflwyno i AaGIC i'w gymeradwyo gan y Deon Ôl-raddedig (neu ddirprwy enwebedig). I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Dental Gold Guide 2025 – COPDEND neu cysylltwch â Rheolwr yr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol.

 

Trosglwyddo Rhwng Deoniaethau

Mae'r broses genedlaethol o drosglwyddo rhwng deoniaethau (IDT) yn helpu hyfforddeion deintyddol arbenigol sydd wedi wynebu newid sylweddol annisgwyl mewn amgylchiadau ers dechrau eu rhaglen hyfforddi bresennol, sy'n aros ar ddyddiad eu cais IDT. Gellir gwneud ceisiadau i drosglwyddo i swyddfa leol HEE/deoniaeth arall drwy gyflwyno cais am Drosglwyddo Rhwng Deoniaethau a gofyn am ddogfennau ategol. Fodd bynnag, er ei bod yn bosibl i hyfforddeion symud rhwng HEE, NES, AaGIC ac NIMDTA (drwy IDT), nid oes hawl awtomatig i hyn ddigwydd. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch Dental Gold Guide 2025 – COPDEND neu cysylltwch â Rheolwr yr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol.