Un Cyflogwr Arweiniol
Ers mis Medi 2021, Gwasanaethau a Rennir y GIG (NWSSP) yw'r Un Cyflogwr Arweiniol ar gyfer hyfforddeion deintyddol arbenigol yng Nghymru (ac eithrio Hyfforddeion Iechyd Deintyddol y Cyhoedd). Mae NWSSP yn sefydliad annibynnol cydfuddiannol, sydd dan berchnogaeth a chyfarwyddyd GIG Cymru. Sefydlwyd NWSSP ar 1 Ebrill 2011 i ddarparu ystod o wasanaethau technegol, gweinyddol a phroffesiynol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y cwsmer, er mwyn cefnogi holl Fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru. Mae manteision y model Un Cyflogwr Arweiniol yn cynnwys:
Ar ôl eich penodiad, byddwch yn cael e-bost croeso a chwestiynau cyffredin gan NWSSP yn cadarnhau manylion gwiriadau cyn cyflogaeth, Cofnod Staff Electronig (ESR) a manylion costau a threuliau a gwyliau blynyddol ac ati.
NWSSP fydd eich pwynt cyswllt cyntaf os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cyflogaeth yn ystod eich rhaglen hyfforddiant deintyddol arbenigol: NWSSPSLE.Dental@wales.nhs.uk , neu ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â’r gyflogres: NWSSP.PayrollSharedServices@wales.nhs.uk.
Cyfrif e-bost GIG Cymru
Fel un o weithwyr NWSSP, byddwch yn cael cyfeiriad e-bost @wales.nhs.uk. Bydd pob dogfen swyddogol yn cael ei hanfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru. Felly, mae’n bwysig eich bod yn edrych ar eich cyfrif yn rheolaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu cael gafael ar hwn cyn gynted â phosibl. Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad i’ch cyfrif, cysylltwch ag: it.servicedesk@wales.nhs.uk.
Cofnod Staff Electronig (ESR)
Fel un o weithwyr NWSSP, bydd gennych fynediad at Gofnod Staff Electronig (ESR). Dyma ble bydd yr Un Cyflogwr Arweiniol yn cofnodi absenoldebau a gwyliau arbennig ar ran sefydliadau sy’n lletya. Bydd eich cyfrinair ESR yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost GIG Cymru. Mae NWSSP yn gweithredu system slipiau cyflog di-bapur felly bydd slipiau cyflog ar gael i’w gweld a’u lawrlwytho o’r ESR. Cadwch eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol ar ESR gan ein bod yn dibynnu ar y wybodaeth hon os bydd angen i ni gysylltu â chi am unrhyw reswm. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â’ch cyfrif ESR, cysylltwch â Hyb Cymorth ESR yn esrhub.wales@wales.nhs.uk.
Costau a Threuliau
Mae gan bob hyfforddai deintyddol arbenigol yr hawl i hawlio costau adleoli, costau busnes a chostau teithio ychwanegol. Fel arfer, rhaid gwneud pob hawliad o fewn 3 mis i'r digwyddiad/traul.
Ar ôl dechrau eich swydd hyfforddi, bydd NWSSP yn rhoi cyfrif treuliau Assure i chi er mwyn i chi allu hawlio'r treuliau hyn.
Gall hyfforddeion deintyddol arbenigol newydd sy'n gymwys i hawlio Ad-daliad Adleoli hawlio yn erbyn eu Cyllideb Adleoli yn unol ag Adleoli Cymru Gyfan – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Mae modd hawlio drwy eich cyfrif treuliau Assure (dewiswch Approval Group: ‘Junior Relocation’/ Type of Expense: fel sy'n briodol)
Mae gan hyfforddeion deintyddol cymwys hawl i 30 diwrnod o Absenoldeb Astudio y flwyddyn a Chyllideb Astudio flynyddol o £600 (Medi-Awst bob blwyddyn). Sylwer bod unrhyw gyllideb sydd heb ei defnyddio fel arfer yn cael ei cholli, ond yn ystod ac ar ôl COVID-19 mae arian heb ei ddefnyddio wedi cael ei gario drosodd i'r flwyddyn ganlynol. Gweler Polisi Absenoldeb Astudio AaGIC yn: https://heiw.nhs.wales/files/policies-and-procedures/all-wales-study-leave-policy-for-doctors-and-dentists-in-training.
Dyma'r broses ar gyfer hawlio treuliau yn erbyn eich Cyllideb Astudio:
Mae gan hyfforddeion deintyddol arbenigol sydd angen teithio i ysbytai neu safleoedd cymunedol eraill fel rhan o'u swydd hawl i hawlio Milltiroedd Busnes.
Dyma'r broses ar gyfer hawlio Milltiroedd Busnes:
Gall hyfforddeion deintyddol arbenigol sy'n gweithio'n barhaol ar fwy nag un safle, yn unol â'u Disgrifiad Swydd, hawlio Milltiroedd Gormodol (sy'n wahanol i filltiroedd busnes). Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio'r system Ad-daliad Adleoli ar gyfer yr hawliadau hyn (gweler Cwestiwn 5 yn y ddogfen Cwestiynau Cyffredin: Adleoli Cymru Gyfan – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.
Salwch/Absenoldeb o hyfforddiant
Sut i wneud cais am wyliau
Rhoi gwybod am absenoldeb oherwydd salwch