Neidio i'r prif gynnwy

Fforymau Hyfforddeion a Chynrychiolwyr dan Hyfforddiant

Bydd fforymau hyfforddeion yn cael eu sefydlu bob blwyddyn hyfforddi i wella ac annog cyfathrebu gyda hyfforddeion ledled Cymru.  Trefnir cyfarfodydd fforwm hyfforddeion bob chwarter ac maent yn eu lle er mwyn cael adborth hyfforddeion am yr hyfforddiant yn y cynlluniau a'r unedau.

Bob gwanwyn byddwn yn gwahodd hyfforddeion i wirfoddoli ar gyfer rôl Cynrychiolydd Hyfforddiant Arbenigol. Os bydd nifer o hyfforddeion yn mynegi diddordeb, cynhelir pleidlais, ac fel rheol bydd y cynrychiolydd yn cael ei ethol gan ei gymheiriaid ar gyfer Hyfforddiant Arbenigol yng Nghymru. Bydd cynrychiolwyr yn eu swyddi o dymor y gwanwyn ymlaen am gyfnod o flwyddyn.

Disgwylir i gynrychiolwyr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol wneud y canlynol:

  • Casglu adborth gan gydweithwyr am yr hyfforddiant a ddarperir yn eu huned(au) hyfforddi.
  • Mynychu Pwyllgor Hyfforddeion Deintyddol (DTC) AaGIC bedair gwaith y flwyddyn. Cynhelir cyfarfodydd ar-lein yn ystod amser cinio er mwyn lleihau'r effaith a'r tarfu ar hyfforddeion.
  • Rhoi gwybod yn brydlon am unrhyw bwyntiau a godir yng nghyfarfod y DTC i’w cyd-hyfforddeion.
  • Darparu fideo tysteb am eu profiadau hyfforddi yng Nghymru a fydd wedyn yn cael ei ddefnyddio ar wefan ddeintyddol AaGIC a'r cyfryngau cymdeithasol i helpu hyfforddeion yn y dyfodol. 
  • Sylwch: Os nad yw cynrychiolwyr yn gallu mynychu cyfarfod, dylent drefnu bod cydweithiwr o lefel hyfforddiant debyg yn bresennol ar eu rhan i gynrychioli eu cynllun. Rhaid derbyn ymddiheuriadau o leiaf wythnos cyn y cyfarfod.

Bydd tystysgrif cyfranogiad yn cael ei dyfarnu i’r sawl sy’n ymgymryd â’r rôl ac sy’n bresennol ym mhob cyfarfod.