Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnodau astudio Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol

Mae AaGIC yn cynnal 3 diwrnod astudio y flwyddyn ar gyfer Hyfforddeion Deintyddol Arbenigol – un yn y gwanwyn, un yn yr haf ac un yn yr hydref/gaeaf.


Presenoldeb

Fel rhan o'ch canlyniadau gorfodol, disgwylir i chi gymryd rhan weithredol ym mhob elfen o’ch hyfforddiant a manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd dysgu sydd ar gael i chi. Argymhellir yn gryf eich bod yn bresennol ym mhob diwrnod astudio a drefnir gan eich cynllun. Bydd presenoldeb gwael neu gyfraniad cyfyngedig yn ystod y flwyddyn yn effeithio ar eich gallu i gwblhau eich Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol yn llwyddiannus.

Cedwir cofnod o bresenoldeb a gall Hyfforddeion lawrlwytho tystysgrifau datblygiad proffesiynol parhaus y gellir eu dilysu o system rheoli cyrsiau ar-lein Y Tŷ Dysgu.

Ni ddylech gymryd gwyliau blynyddol ar ddiwrnod astudio.

Gwnewch eich gorau i rannu car pan fydd hynny’n bosibl.

 

Gwisg ac Ymddygiad

Disgwylir safonau proffesiynol o ran gwisg mewn diwrnodau astudio a diwrnodau cwrdd i ffwrdd/cynadleddau.  Mae’n gwbl ofynnol dangos parch a chwrteisi tuag at gydweithwyr, staff gweinyddol a staff eraill, ynghyd â'r cyhoedd a allai fod yn bresennol yn y lleoliad.

Dim ond i gymryd nodiadau y ceir defnyddio dyfeisiau symudol fel tabledi a gliniaduron. Gellir gofyn i chi adael os byddwch yn defnyddio'r dyfeisiau hyn ar gyfer unrhyw beth arall. Nid yw'n dderbyniol defnyddio ffonau symudol o gwbl yn ystod agweddau addysgol y rhaglen astudio a dylid diffodd y rhain neu eu tewi, ac eithrio pan fydd egwyl.