Neidio i'r prif gynnwy

Deoniaeth Ddeintyddol, AaGIC, a'i rôl mewn Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol

Mae’r Ddeoniaeth Ddeintyddol yn AaGIC yn gyfrifol am sicrhau y darperir addysg a hyfforddiant deintyddol ôl-raddedig cynaliadwy o safon uchel, sy’n cefnogi’r gwasanaethau a ddarperir yn GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • Recriwtio a dethol i raglenni hyfforddiant deintyddol
  • Sicrhau bod lleoliadau mewn rhaglen hyfforddi yn bodloni gofynion addysg a chwricwlwm
  • Sicrhau bod rhaglen gymorth ac asesu ar waith h.y. trefnu Adolygiadau Blynyddol o Ddilyniant Cymhwysedd (ARCP)
  • Sicrhau eich bod yn gallu cael gafael ar amrywiaeth o gymorth drwy gydol eich rhaglen hyfforddi drwy Oruchwylwyr Addysgol hyfforddedig, Cyfarwyddwyr y Rhaglen Hyfforddi, a’r Uned Cymorth Proffesiynol
  • Sicrhau bod y dulliau o ddarparu addysg a hyfforddiant deintyddol ledled Cymru yn cyrraedd y safonau uchaf, yn rhoi gwerth am arian ac yn cynnig amrywiaeth o ddulliau/amgylcheddau dysgu i hyfforddeion.

Cyfarwyddwr Meddygol (Dros Dro) – Yr Athro Tom Lawson

Yn gyfrifol am oruchwylio'r holl weithgarwch ar draws y Gyfarwyddiaeth Feddygol, sy'n cynnwys y Ddeoniaeth Ddeintyddol, y Ddeoniaeth Feddygol a’r Ddeoniaeth Fferyllol.

 

Deon Deintyddol Ôl-raddedig – Mrs Kirstie Moons

Yn gyfrifol am y canlynol:

  • Rheoli ansawdd swyddi a rhaglenni hyfforddiant deintyddol arbenigol
  • Penodi hyfforddeion a Chyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi
  • Asesu cynnydd yr hyfforddeion
  • Argymell dyfarnu Tystysgrif Cwblhau Hyfforddiant Arbenigol (CCST) i'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC)
  • Dyrannu a rheoli Rhifau Hyfforddi Cenedlaethol (NTN)

Mae'n rhaid i'r Deon Deintyddol Ôl-raddedig fod â phrosesau rheoli ansawdd cadarn ar waith i reoli'r dasg o ddarparu hyfforddiant a sicrhau bod hyfforddeion yn gwneud cynnydd boddhaol.

 

Deon Deintyddol Ôl-raddedig Cyswllt (Hyfforddiant Deintyddol Craidd a Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol) – Mr William McLaughlin 

Yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cymryd rhan yn y trefniadau lleol a ddatblygwyd gan y Deon Deintyddol Ôl-raddedig i gefnogi'r gwaith o reoli'r rhaglen hyfforddi
  • Ystyried anghenion cyffredin yr hyfforddeion
  • Cefnogi goruchwylwyr clinigol ac addysgol
  • Cyfrannu at y broses flynyddol o asesu deilliannau
  • Helpu'r Deon Deintyddol Ôl-raddedig i ymdrin â hyfforddeion sy'n cael anawsterau

 

Rheolwyr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol – Ms Frances Yuen Lee a Mrs Lucinda Isherwood

Yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cydlynu a threfnu'r gwaith o recriwtio, cynllunio a darparu rhaglenni’r Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol
  • Rheoli a chydlynu ARCP ar gyfer hyfforddeion
  • Rhoi cyngor ac arweiniad i hyfforddeion, Cyfarwyddwyr Rhaglenni Hyfforddi, Goruchwylwyr Addysgol, arweinwyr hyfforddiant a Byrddau Iechyd ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys prosesau recriwtio a dethol, adolygiadau blynyddol o gynnydd mewn hyfforddiant, rheoli rhaglenni a dyrannu hyfforddeion, datblygu cyfadrannau hyfforddi, gwerthuso lleoliadau

​​​​​​​

 

Gweinyddwr Cefnogi Rhaglenni Hyfforddi – Ms Emma Lloyd

emma.lloyd22@wales.nhs.uk 

 

Cyfarwyddwyr y Rhaglenni Hyfforddi

Cyfarwyddwyr y Rhaglenni Hyfforddi sy'n gyfrifol am y gwaith o reoli hyfforddiant deintyddol arbenigol o ddydd i ddydd. Mae’r rhain yn cael eu penodi gan y Deon Deintyddol Ôl-raddedig ac yn atebol iddo. Dylent fod yn benodol i arbenigedd.

 

Dr Sandra Goncalves
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Arbenigeddau Ychwanegol, Meddygaeth y Geg
E-bost: GoncalvesS@cardiff.ac.uk

 

Dr Mary Wilson
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Iechyd Deintyddol y Cyhoedd
E-bost: Mary.Wilson@wales.nhs.uk
 

Keri Tubrerville
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Llawfeddygaeth y Geg
E-bost: Keri.Turberville@wales.nhs.uk

 

Melanie Wilson
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Arbenigeddau Ychwanegol, Microbioleg y Geg
E-bost: Wilsonmj@cardiff.ac.uk

 

Mr Liam Addy
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Cyfarwyddwr Adfer
E-bost:   AddyLD@cardiff.ac.uk

 

Mr Graham Oliver
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Orthodonteg
E-bost:  Graham.Oliver@wales.nhs.uk

 

Dr Monica Neil
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Deintyddiaeth Bediatrig
E-bost:  Monica.Neil@wales.nhs.uk

 

Dr Jessica Bell-Davies
Cyfarwyddwr Rhaglen Hyfforddi
Deintyddiaeth Gofal Arbennig
E-bost: Jessica.Bell-Davies@wales.nhs.uk

 

Goruchwylwyr Addysgol

Hyfforddwr dynodedig yw goruchwyliwr addysgol. Caiff ei benodi gan y darparwr i fod yn gyfrifol am oruchwylio a rheoli cynnydd addysgol hyfforddai yn ystod lleoliad hyfforddi neu gyfres o leoliadau.
 

Goruchwylwyr Clinigol

Dylai pob hyfforddai gael Goruchwyliwr Clinigol Dynodedig ar gyfer pob sesiwn glinigol. Bydd goruchwyliwr clinigol yn hyfforddwr sydd â chymhwysedd amlwg yn y maes clinigol ac sydd wedi'i hyfforddi'n briodol i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith, clinigol hyfforddai a rhoi adborth adeiladol.
 

Goruchwylwyr Academaidd

Mae'r goruchwyliwr academaidd yn gyfrifol am oruchwylio gwaith academaidd hyfforddai penodol a rhoi adborth adeiladol yn ystod profiad academaidd neu gysylltiedig. Mae’n rhaid iddo hefyd ddarparu adroddiad goruchwyliwr academaidd fel rhan o'r dystiolaeth ar gyfer yr ARCP.