Neidio i'r prif gynnwy

Data Hyfforddeion a Rheoli Data

7.1 Cronfa ddata hyfforddiant CODI

Mae AaGIC yn defnyddio cronfa ddata CODI i storio data allweddol am bob swydd graddfa hyfforddiant a hyfforddai.  Dyma brif swyddogaethau’r gronfa ddata:

  • Mecanwaith tracio cyllid AaGIC ar gyfer pob swydd hyfforddi
  • Adroddiadau lleol (at ddibenion AaGIC/Bwrdd Iechyd) ac ar lefel genedlaethol (Llywodraeth Cymru) a'r DU (GDC)
  • Rheoli ceisiadau am Absenoldeb Astudio gan Hyfforddeion a Byrddau Iechyd
  • Rheoli cofnodion deilliannau asesu

Byddwch yn cael manylion mewngofnodi ar gyfer CODI yn dilyn eich apwyntiad – mae hyn yn ofynnol i'ch galluogi i drefnu eich absenoldeb astudio. Mae AaGIC hefyd yn defnyddio’r system CODI i gysylltu â hyfforddeion ynghylch materion a allai fod yn berthnasol iddynt ac felly o bryd i’w gilydd efallai y byddwch yn cael negeseuon e-bost gan AaGIC sy’n dod o CODI fel yr anfonwr.

7.2 Hysbysiad o Newid mewn Amgylchiadau

Rhaid i chi roi gwybod i Reolwr yr Hyfforddiant Deintyddol Arbenigol a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru cyn gynted â phosibl os yw’ch amgylchiadau wedi newid neu y bwriedir i hynny ddigwydd yn ystod eich rhaglen hyfforddi. Gallai newidiadau effeithio ar sut mae eich taliadau cyflog yn cael eu gwneud a dyddiad gorffen eich hyfforddiant, felly mae'n hanfodol eich bod yn rhoi gwybod i'r holl dimau perthnasol.

Dyma ddiweddariadau/newidiadau y mae angen rhoi gwybod amdanynt:

  • Newid manylion personol fel newid cyfeiriad neu e-bost ac ati.
  • Ceisiadau Tu Allan i’r Rhaglen.
  • Ceisiadau i Drosglwyddo Rhwng Deoniaethau.
  • Hysbysiad o gyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch, absenoldeb mamolaeth/tadolaeth neu wasanaeth rheithgor.
  • Rhoi’r gorau i Raglen Hyfforddi.

7.3 Data Monitro Cydraddoldeb

Mae AaGIC wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu amlbroffesiwn ac amrywiol sy’n cynrychioli staff ar draws GIG Cymru a’r cleifion rydym ni i gyd yn eu gwasanaethu yn y pen draw. Mae’n hanfodol bod yr holl staff a’r hyfforddeion rydym ni’n eu cefnogi yn teimlo eu bod yn cael croeso, yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu galluogi i gyflawni eu llawn botensial. Rydym wedi ymrwymo i greu cyfleoedd i gyflwyno rhaglenni gwaith sy’n mynd i’r afael yn uniongyrchol â Chyrhaeddiad Gwahaniaethol pob hyfforddai. Er mwyn cyflawni hyn a sicrhau bod ein strategaethau a’n polisïau yn y dyfodol yn ystyried amrywiaeth yr hyfforddeion rydym ni’n eu cefnogi, mae’n hanfodol eich bod yn ateb cwestiynau Monitro Cydraddoldeb ar unrhyw arolygon y byddwn yn eu rhyddhau a gwybodaeth sy’n ymwneud â’ch nodweddion gwarchodedig h.y. rhywedd, crefydd, ethnigrwydd ac ati, er mwyn iddynt gael eu diweddaru ar CODI, gan mai dyma’r set ddata rydyn ni’n seilio ein gwaith yn y dyfodol arni ac asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb.