Gofal Iechyd Cynaliadwy yng Nghymru
Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, a ddwy flynedd yn ddiweddarach cyhoeddodd ei chynllun ar gyfer GIG “sero net” erbyn 2030. Mewn ymateb i’r addewid hwn, rhyddhawyd Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru.
Cynllun Cyflenwi Strategol Datgarboneiddio GIG Cymru (llyw.cymru)
Mae gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) rôl i gefnogi’r dasg o weithredu’r cynllun hwn, ond gall pob un ohonom ni wneud ein rhan.
Mae'r Lancet yn disgrifio’r newid yn yr hinsawdd fel "y bygythiad iechyd byd-eang mwyaf sy'n wynebu'r byd yn yr 21ain ganrif".
Mae meddwl am y newid yn yr hinsawdd yn gallu bod yn frawychus (mae hyn yn ymateb arferol i newyddion ofnadwy – fe’i gelwir yn eco-drallod). Mae cydnabod y ffordd rydym ni’n teimlo, a gweithredu, yn gallu ein helpu i deimlo’n fwy cadarnhaol.
Dyma rai camau bach y gallech chi eu cymryd fel hyfforddai deintyddol yng Nghymru:
Mae deintyddiaeth yn wynebu llawer o heriau i helpu i fynd i'r afael â'r broblem, yn enwedig o ran dadlygru, gwaredu gwastraff a defnyddio plastigau untro. Mae allyriadau gwasanaethau deintyddol y GIG yn cyfrif am 3% o ôl troed carbon cyffredinol y GIG.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am Gynaliadwyedd mewn Deintyddiaeth, bydd y ddolen isod yn eich cyfeirio at adnodd rhagorol ar wefan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy.
Sustainable Dentistry: How-to Guide for Dental Practices | Centre for Sustainable Healthcare
Mae Gofal Iechyd Cynaliadwy yn rhoi gobaith am ddyfodol iachach a phlaned iachach.
Dyma pam mae’r Lancet hefyd yn disgrifio’r newid yn yr hinsawdd fel “y cyfle gorau i ailddiffinio penderfynyddion cymdeithasol ac amgylcheddol iechyd”.